Sir Gaerfyrddin: Gwneud barcutiaid yn Sanclêr
Hwyl hanner tymor i deuluoedd yn Sanclêr
Bu teuluoedd yn Sanclêr yn cael hwyl dros hanner tymor yn creu barcutiaid, yn ystod y cyntaf mewn cyfres o sesiynau chwarae yn yr awyr agored.
Gan ddefnyddio papur a hoelion pren, cafodd preswylwyr ifanc ym Maes Yr Hufenfa lawer o hwyl yn creu eu barcutiaid, cyn mynd ati i’w hedfan.
Trefnwyd y sesiynau gan staff TWW a phrosiect rhifedd Lluosi Cyngor Sir Gâr.
Bwriedir cynnal rhagor o sesiynau chwarae trwy gydol yr haf.
Dywedodd Rhiannon Ling, Swyddog Datblygu Cymunedol TWW: “Mae’r sesiynau hyn wastad yn rhai hwyliog. Mae’n cynnig y cyfle i staff ymgysylltu â phreswylwyr tra bod plant a theuluoedd yn mwynhau’r gweithgareddau am ddim.
“Mae’n gynllun newydd, felly mae digwyddiadau fel hyn yn dda i breswylwyr ddod i adnabod ei gilydd.”