Skip to content
Cartrefi Newydd

Darparu cartrefi yng Nglannau'r Barri

Nid oeddwn fyth yn disgwyl y byddwn yn ddigartref ac yn byw gyda fy mab mewn ystafell sengl mewn gwesty, ond penderfynodd fy landlord werthu ein cartref rhentLlefais pan gynigiwyd fy fflat fy hun i mi.” 

1

Wrth iddi gerdded i mewn i’w chartref Tai Wales & West am y tro cyntaf, llefodd Nadean Kennedy. 

“Roeddwn yn llefain, ond dagrau hapus oedden nhw,” gwenodd wrth iddi sôn am y rhyddhad a deimlodd pan roddodd allweddi yr ystafell yn y gwesty lle’r oedd wedi bod yn byw gyda’i mab saith oed, yn ôl. 

Am naw mlynedd, roedd Nadean wedi bod yn rhentu cartref preifat ym Mhenarth, nes i’w landlord roi gwybod iddi ei fod yn dymuno gwerthu’r fflat a oedd yn gartref iddi. 

“Roeddwn yn siomedig, gan mai ein cartref ni oedd hwn ac roedd yn landlord da,” esboniodd Nadean. 

“Cefais ychydig sioc pan geisiais chwilio am rywle arall i’w rentu.  Nid oeddwn wedi cael cyswllt â’r farchnad am gyfnod mor hir, nid oeddwn yn ymwybodol o’r ffaith bod rhenti wedi codi gymaint.  Roedd yr unig fannau y gallwn i eu gweld yn costio dros £1,000 y mis.  Ni fyddwn i fyth yn gallu fforddio hynny;  byddai wedi llyncu fy holl gyflog.” 

Gan droi at Gyngor Bro Morgannwg, rhoddwyd llety dros dro i Nadean a’i mab Xander mewn ystafell wely sengl mewn gwesty “yng nghanol dim unman” ddechrau 2024. 

“Nid oeddwn fyth wedi disgwyl y byddwn yn ddigartref ac yn byw gyda fy mab mewn ystafell sengl mewn gwesty.” 

“Roedd y gwesty yn llawn teuluoedd eraill a oedd yn yr un sefyllfa.  Roedd gennym ddau wely sengl mewn un ystafell, gyda microdon a thostiwr i baratoi ein prydau ac ychydig beiriannau golchi a sychu dillad cymunol i olchi ein dillad. 

“Bu’n rhaid i mi drefnu lle i storio fy nodrefn.  Nid oedd yn brofiad da.  Roeddem ymhellach i ffwrdd o ysgol Xander ac roedd yn rhaid i ni gerdded wrth ymyl ffyrdd prysur bob dydd. 

“Roedd byw yn y gwesty yn effeithio ar addysg Xander.  Roedd y gwesty yn swnllyd, nid oedd yn gallu cysgu’n iawn, felly roedd wastad yn teimlo’n flinedig. 

 

1
Ym mis Mawrth, cynigiwyd fflat dwy ystafell wely i Nadean yng Nglannau’r Barri, un o gartrefi fforddiadwy TWW yn y datblygiad ar y glannau.

“Rydw i wir wedi bod yn ffodus gyda’n fflat newydd,” dywedodd Nadean, sy’n gweithio gartref fel cynghorydd gwerthu yswiriant. 

“Rydw i wrth fy modd bod gennyf rywle i’w alw yn gartref unwaith eto.  Rydw i wedi cael fy nodrefn yn ôl a gallaf goginio prydau nad ydynt yn gofyn am ddefnyddio’r microdon. 

“Mae gan Xander ei ystafell wely ei hun unwaith eto ac mae gennyf i fy lle fy hun hefyd.” 

Rydw i mor hapus bod Tai Wales & West wedi cynnig cartref gwych i mi lle y gallwn setlo a theimlo’n ddiogel unwaith etoNi allaf roi’r gorau i wenu.”

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.