Preswylwyr Llys Faen wrth eu bodd yn gwau ac yn sgwrsio
Dewch i gyfarfod y preswylwyr sy’n gwau bronnau er mwyn helpu mamau newydd i fwydo ar y fron
Mae bydwragedd a mamau newydd mewn ysbyty yn Ne Cymru yn cael ychydig help wrth fwydo ar y fron, diolch i grŵp o weuwyr o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae Grŵp Knit & Natter yn Llys Faen yn creu nifer o bethau er mwyn helpu’r gymuned. Am sawl blynedd, maent wedi bod yn gwau ac yn crosio blancedi a hetiau i bobl sy’n ddigartref a blancedi a myffiau ar gyfer preswylwyr oedrannus mewn dau gartref nyrsio lleol.
Ond yn ddiweddar, maent wedi cael cais ychydig yn fwy anarferol.
Mae Alison Burke, un o’r preswylwyr, yn esbonio: “Mae un o fy mherthnasau yn fydwraig yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful. Roedd hi’n gwybod fy mod yn hoffi gwau a holodd ‘a fyddet ti’n gallu gwau bronnau?’
“Maent yn eu defnyddio i hyfforddi bydwragedd newydd er mwyn addysgu mamau newydd sut i fwydo ar y fron.
“Anfonodd batrwm ataf a rhyngom, rydym wedi gwau a chrosio nifer ohonynt, o bob siâp, maint a lliw.”
Mae’r grŵp, sy’n cynnwys Alison, Lynne, Rosemary, Marjorie, Adele a Jill, sy’n breswylwyr, yn cyfarfod bob wythnos yn ystafell gymunol eu cynllun yn Llys Faen. Mae rhai o aelodau’r grŵp yn dioddef afiechyd ac yn edrych ymlaen at eu sesiynau wythnosol lle y byddant yn gwneud gwaith crefft dros baned.
Mae arweinydd cymunedol lleol eu siop Tesco leol yn ymuno â nhw bob wythnos hefyd, ac mae wedi dechrau cyfrannu gwlân i’r grŵp.
“Mae un o fy mherthnasau yn fydwraig yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful. Roedd hi’n gwybod fy mod yn hoffi gwau a holodd ‘a fyddet ti’n gallu gwau bronnau?’
Maent yn eu defnyddio i hyfforddi bydwragedd newydd er mwyn addysgu mamau newydd sut i fwydo ar y fron.”
Alison Burke, aelod o grŵp Knit and Natter yn Llys Faen, Pen-y-bont ar Ogwr
Ar gyfer eu prosiect nesaf, gofynnwyd i’r grŵp greu 80 o flancedi a myffiau ar gyfer eu cartref gofal lleol.
Dywedodd Alison: “Mae rhai o’r bobl oedrannus yn dioddef dwylo oer, felly gofynnwyd i ni greu myffiau i’w cadw’n gynnes. Rydym yn creu’r myffiau gan roi botymau y tu mewn iddynt, gan bod rhai pobl sydd â dementia yn hoffi cadw eu bysedd yn brysur.”
“Rydym yn mwynhau eistedd gyda ffrindiau a sgwrsio yn ein grŵp. Mae gwneud pethau sy’n helpu eraill yn ei wneud yn fwy gwerth chweil fyth.”