Skip to content
Gwneud Gwahaniaeth

Man lle y mae pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu

I blant ceiswyr lloches a ffoaduriaid sydd wedi cael profiadau dirdynnol, bod yn dyst i ddigwyddiadau trawmatig a byw mewn ofn yn ystod eu taith i Gymru, mae cael lle diogel i chwarae, dysgu a meithrin cyfeillgarwch yn fwy hanfodol fyth.

Trwy gyfrwng ei sesiynau Prosiect Chwarae rheolaidd yng Nghymru, nod Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) yw meithrin amgylchedd diogel a gofalgar i blant.

Cawsom ein cyffwrdd gan y profiad o helpu’r sefydliad i fodloni’r galw uwch am ei sesiynau chwarae trwy noddi ei sesiynau chwarae am yr eildro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae CFfC wedi gweld cynnydd o 40% yn nifer y plant sy’n defnyddio ei Brosiect Chwarae, a gyda help ein nawdd ni, roeddent wedi gallu cynorthwyo 279 o blant sy’n mynd trwy’r broses lloches.

1

Yn ystod yr haf eleni, bydd y Prosiect Chwarae yn cynnal gweithgareddau ychwanegol lle y bydd plant ceiswyr lloches a ffoaduriaid a’u teuluoedd yn dysgu mwy am eu cymuned.  Mae rhai o’r gweithgareddau ychwanegol hynny wedi cynnwys ymweliadau ag Amgueddfa Cymru i ddysgu am dreftadaeth Gymreig a diwrnodau antur mewn parciau ac ardaloedd gwlyptir lleol i ddysgu am natur a’r amgylchedd.

Dywedodd Athina Summerbell, Rheolwr Datblygu Busnes yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru:  “Yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru, mae ein Prosiect Chwarae yn cynnig lle llawn llawenydd i blant sy’n ceisio lloches, gan gynnig eiliadau o chwerthin, cyfeillgarwch a gobaith iddynt.

“Diolch i gymorth hael Tai Wales & West, gallwn greu y mannau hanfodol hyn lle y caiff atgofion plentyndod eu creu.”

“Gyda’n gilydd, nid yn unig yr ydym yn gwneud gwahaniaeth;  rydym yn siapio dyfodol lle y bydd gan bob plentyn y cyfle i ffynnu.”

Athina Summerbell, Rheolwr Datblygu Busnes yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru

279
plant a gynorthwywyd
40%
cynnydd yn
nifer y plant sy’n defnyddio’r Prosiect Chwarae
1
1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.