Skip to content
Newyddion

A ydych chi’n fodlon gyda’n gwasanaethau?

Yn ystod yr Hydref 2023, cynhaliom ein harolwg bodlonrwydd preswylwyr blynyddol i ganfod eich safbwyntiau am gyfres o faterion.  Gosodir y prif gwestiynau yn yr arolwg gan Lywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys cwestiynau am eich cartref a’ch cymuned, y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, sut yr ydym yn gwrando, a ydych chi’n ymddiried ynom, ac ynghylch y gwerth am arian y mae byw mewn cartref WWH yn ei gynnig. 

Roedd cwmni ymchwil annibynnol wedi holi sampl ar hap a chynrychioliadol o bron i 1,000 o breswylwyr ar draws Cymru.  Mae’n gyfle i ni ddeall yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda iawn, a nodi meysydd lle y gallwn wella. 

O ganlyniad, rydym wedi dechrau ar y gwaith i wella gweithgarwch ymgysylltu gyda’n preswylwyr sydd dan 35 oed, gan ystyried gwerth am arian taliadau gwasanaeth. 

Rydym yn falch bod canlyniadau’r arolwg yn dangos bod 81% o’n preswylwyr yn fodlon gyda ni fel landlord yn gyffredinol a bod 83% yn ymddiried ynom.

81%
bodlonrwydd
bodlonrwydd cyffredinol
82%
bodlonrwydd
ansawdd y cartref 
88%
bodlonrwydd
diogelwch y cartref 
83%
bodlonrwydd
gwerth am arian y rhent 
65%
bodlonrwydd
gwerth am arian y tâl gwasanaeth 
80%
bodlonrwydd
trwsio a gwaith cynnal a chadw yn gyffredinol 
73%
bodlonrwydd
yn gwrando ar safbwyntiau ac yn gweithredu yn eu cylch 
66%
bodlonrwydd
cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau
75%
bodlonrwydd
cael y cyfle i ddweud eich dweud am y ffordd y rheolir y gwasanaeth 
83%
bodlonrwydd
ymddiriedaeth yn Nhai Wales & West
78%
bodlonrwydd
y gymdogaeth fel lle i fyw 
63%
bodlonrwydd
delio ag YG
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.