Rydym yn adeiladu 50 o gartrefi newydd ym Mro Morgannwg
Rydym yn gweithio ar dri datblygiad tai newydd yn Ne Cymru ar hyn o bryd.
Yn Silstwn, mae’r gwaith ar fin cael ei gwblhau ar 18 o dai a fflatiau newydd, a fydd yn barod i groesawu preswylwyr newydd yn yr hydref.
Mae prinder cartrefi rhent fforddiadwy ym mhentref arfordirol bychan Y Wig, sydd rhwng Llanilltud Fawr a Saint-y-brid.
Ym mis Mehefin, cychwynnodd ein contractwyr, P+P Builders, ar y gwaith o adeiladu 17 o gartrefi newydd mewn cae ar gyrion y pentref. Mae’r cartrefi yn Ffordd St Brides gerllaw Arfordir Treftadaeth prydferth Morgannwg.
Mae’r datblygiad yn cynnwys cartrefi 2 a 3 ystafell wely, fflatiau 1 ystafell wely a byngalo.
Rydym yn gobeithio y bydd y cartrefi yn barod i groesawu preswylwyr newydd yn ystod yr haf flwyddyn nesaf.
Mae P+P Builders wedi cychwyn ar y gwaith ar 17 cartref pellach hefyd yn Y Rhws, sy’n edrych allan dros yr arfordir yn Heol Y Pentir.