Skip to content
Newyddion

Yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn

Mae cwynion a chanmoliaeth gan breswylwyr a chwsmeriaid yn ffynhonnell adborth hynod o werthfawr am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.  Rydym yn croesawu eich adborth, y da a’r drwg.  Maent yn ffordd gadarnhaol o hyrwyddo bodlonrwydd cwsmeriaid ac yn ffordd o nodi cyfleoedd i wella darpariaeth gwasanaethau.  Maent yn ein helpu i ddysgu am eich anghenion a’ch disgwyliadau. 

Y llynedd, adolygom ein polisi cwynion, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn well gyda pholisi safonol ar gyfer delio â chwynion ar gyfer yr holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyfrifoldebau penodol dros ymchwilio i gwynion sy’n ymwneud â thai yng Nghymru. 

  

Beth yw cwyn? 

Cwyn yw pan fyddwch yn mynegi anfodlonrwydd am safon gwasanaeth, camau gweithredu neu ddiffyg gweithredu gan GTWW neu ei gynrychiolwyr, sy’n effeithio ar gwsmer unigol neu grŵp o gwsmeriaid.

1

Sut allaf i wneud cwyn?

Gallwch wneud cwyn ar lafar neu yn ysgrifenedig os byddwch yn teimlo nad yw’r gwasanaeth yr ydym wedi’i ddarparu wedi bodloni eich disgwyliadau. 

Ffoniwch:  0800 052 2526 

Anfonwch e-bost

Ar-lein

Rydym yn gwybod bod pethau yn gallu mynd o le, felly mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni fel ein bod yn gallu unioni’r sefyllfa.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

  • Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn yn syth trwy gyfrwng cyswllt anffurfiol yn y lle cyntaf 
  • Os na fyddwn yn gallu datrys eich cwyn ar ôl 10 diwrnod a chytuno ar gamau gweithredu, mae proses ffurfiol yn bodoli.  Gallwch ddarllen mwy am hon yn ein Polisi Cwynion. 


Cwynion yn ystod 2023/24
 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi adolygu ein gweithdrefnau, ein mecanweithiau cofnodi a’n gofynion adrodd, yn ychwanegol i ymgymryd â hyfforddiant staff, a bydd y gwaith yn parhau yn ystod 2024.

Mae’r rhain oll wedi cyfrannu at y cynnydd yn nifer y cwynion a adroddwyd. 

  • Yn ystod y pedwar chwarter diwethaf, mae WWHG wedi cael 146 o gwynion.  Mae hwn yn gynnydd o’i gymharu â’r 96 o gwynion a gafwyd yn ystod y pedwar chwarter blaenorol fel yr adroddwyd yn yr adroddiad diwethaf.
  • Mae maes Gwasanaeth Asedau (Gwaith Trwsio) yn cael mwyafrif y cwynion (49%), sy’n cyd-fynd â thueddiadau hanesyddol. 
  • Mae’r Polisi Cwynion yn nodi y dylid ymchwilio i’r rhan fwyaf o gwynion Cam 2 cyn pen 20 diwrnod gwaith, er y gallai achosion cymhleth gymryd yn hirach.  Roedd 75% o achosion wedi cael eu cau o fewn amserlenni.
  • Cadarnhawyd 52% (76) o gwynion yn ystod y 4 chwarter diwethaf o’u cymharu â 53% yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol.  Roedd ychydig dros 55% o’r cwynion a gadarnhawyd yn ymwneud â gwaith trwsio. 

Rydym wedi ymrwymo i ddelio mewn ffordd effeithiol ag unrhyw gwynion am ein gwasanaethau ac yn ystod 2024, byddwn yn parhau i fonitro cwynion a dysgu gan y wybodaeth y byddwn yn ei chael trwy gyfrwng cwynion er mwyn gwella ein gwasanaethau. 

149
o cwynion a gafwyd yn ystod y 4 chwarter diwethaf
i gymharu â’r 96 o gwynion a gafwyd yn ystod y pedwar chwarter blaenorol
49%
o gwynion a gafwyd yn ôl ardal Gwasanaeth Asedau (Trwsio)
75%
o gwynion a gafodd eu datrys o fewn amserlenni
52%
o gwynion a gadarnhawyd yn ystod y 4 chwarter diwethaf
i gymharu â 53% yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.