Ynglŷn â Maes y Môr, Aberystwyth
Ym mis Awst 2021, cychwynnodd y gwaith adeiladu ar ein cynllun gofal ychwanegol newydd yn Aberystwyth a fydd yn costio £9m.
Wedi’i leoli ym Mhen yr Angor, Trefechan, gyda golygfeydd godidog dros y dref a’r harbwr, hwn fydd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yng Ngheredigion a’r ail i gael ei agor yn y sir.
Bydd y cynllun yn darparu ystod o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr y dydd.
Datblygir Maes y Môr mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion.
Cymhwysedd
Byddwn yn derbyn ceisiadau gan oedolion sydd ag angen gofal neu gymorth.
Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sydd eisoes yn byw yng Ngheredigion.
Gwneir asesiad o amgylchiadau pob un yn unigol i bennu eu hangen am dai gofal ychwanegol.
Llyfryn: Maes y Môr – Cymuned Gefnogol
Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais
Ffôn: 01970 602570 yn ystod oriau swyddfa, sef 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost: contactus@wwha.co.uk
Nodweddion
Bydd y cyfleusterau yng nghynllun gofal ychwanegol Aberystwyth yn debyg i’r rhai yn ein cynlluniau presennol yn Nhreffynnon, Prestatyn, Yr Wyddgrug a’r Drenewydd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ystafelloedd cawod cerdded i mewn iddynt yn gysylltiedig
- Ceginau gosod cyfoes (heb gynnwys nwyddau gwynion)
- Ystafelloedd ymolchi gyda chymorth
- Bwyty ar y safle, sy’n gweini prydau wedi’u coginio’n ffres bob dydd
- Safleoedd lolfa
- Ystafell i westeion
- Cyfleusterau golchdy
- Lle storio sgwter symudedd
- Gerddi a therasau
Lleoliad
FAQs
Ehangwch y tabiau isod i weld atebion i’r Cwestiynau Cyffredin.
Na. Bydd Maes y Môr ar agor i bobl 18 oed ac yn hŷn sydd ag angen gofal a chymorth.
Gall pobl sydd â chlefyd Alzheimer fyw mewn tai gofal ychwanegol. Fel rhan o’r asesiad a gynhelir o bob unigolyn, ystyrir pob cyflwr iechyd er mwyn sicrhau y gellir bodloni eu hanghenion gofal a chymorth cyn iddynt gael eu derbyn ar y rhestr aros am lety.
Ydym. Ceir fflatiau sy’n cynnwys 2 ystafell wely, sy’n eang ac yn ddelfrydol i gyplau. Wrth asesu addasrwydd cyplau sy’n dymuno cael eu hystyried am dai gofal ychwanegol, byddem yn ystyried anghenion y ddau unigolyn a’r ddau ohonynt fel pâr.
Y prif wahaniaeth yw bod tîm gofal a chymorth ar y safle yn ein cynlluniau gofal ychwanegol. Mae’r tîm hwn yn darparu gwasanaethau i bobl yn unol â’r hyn a gytunwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol.
Pan fydd lle gwag yn codi, ystyrir pawb sydd ar y rhestr aros. Cynigir yr eiddo i’r sawl y bernir eu bod yn yr angen mwyaf ar yr adeg honno.
Ystyrir unrhyw bosibilrwydd y bydd y risg i’r unigolyn yn colli eu hannibyniaeth yn cynyddu a/neu y bydd lefel y cymorth mae ei angen arnynt yn cynyddu os byddant yn aros yn eu llety presennol.
Disgwylir y gallai’ch anghenion newid gydag amser ac y gallai lefel y gofal a’r cymorth y bydd ei angen arnoch amrywio. Bydd y timau yn eich cynorthwyo i barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod mor hir ag y bo modd ac am ba mor hir y bydd hyn yn bodloni eich anghenion.
Fflatiau i’w rhentu yn unig yw’r rhain.
Byddwch yn y rhan fwyaf o achosion. Byddwn yn holi sut y bydd pobl yn gofalu am eu hanifail anwes, gan gadarnhau eu bod yn deall bod rhannau mewnol ac allanol yn cael eu rhannu.
Eich cartref chi yw eich fflat – gallwch fynd a dod a chael ymwelwyr pryd bynnag y byddwch yn dymuno.