Prosiect lle chwarae hynafol yn agor yn swyddogol gyda chymorth Tai Wales & West
Mae prosiect cymunedol sy’n rhoi bywyd newydd i dreftadaeth ar safle hynafol mwyaf Caerdydd wedi cael rhodd o £70,000 gan Dai Wales & West (WWH) er mwyn datblygu lle chwarae newydd i blant.
Mae Prosiect Bryngaer Cudd ACE (Action in Caerau and Ely) yng Nghaerau, Trelái yn archwilio hanes ac archeoleg Bryngaer Oes Haearn Caerau a’r cyffiniau, gan helpu i gysylltu cymunedau gyda’u treftadaeth. Defnyddir y nawdd er mwyn gosod lle chwarae newydd i blant ar y safle, a fydd yn seiliedig ar thema treftadaeth, fel rhan o Brosiect Bryngaer Cudd. Agorwyd y lle chwarae yn swyddogol ar ddydd Gwener, 3 Medi, yn ystod digwyddiad agored a fynychwyd gan deuluoedd lleol, Cynghorydd Caerdydd Peter Bradbury, aelodau grŵp cymunedol UNITY a fu’n helpu i ddylunio’r lle chwarae a Swyddogion Datblygu Cymunedol WWH.
Datblygwyd y dyluniadau ar gyfer y lle chwarae gan bobl leol ar cyd ag arbenigwyr, Green Play (https://www.greenplayproject.co.uk/) ac fe’u dyluniwyd i archwilio agweddau ar dreftadaeth y bryngaer dros 2,000 o flynyddoedd, trwy chwarae; gan gynnwys nodweddion tŷ crwn, cerrig sarn amser a sleidiau sy’n mynd i lawr amddiffynfeydd ‘rhagfuriau’.
Rhoddwyd y nawdd gan Dai Wales & West, darparwr tai, fel rhan o’i chronfa Gwneud Gwahaniaeth, sy’n gweithio gyda’i chyflenwyr a’i chontractwyr i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol trwy gefnogi grwpiau cymunedol a chwaraeon.
“Mae’r Bryngaer Cudd yn brosiect gwych sy’n cynnig y cyfle i nifer o’n preswylwyr ddysgu am a gwerthfawrogi hanes yr ardal lle y maent yn byw, yn ogystal â chreu cyfleusterau chwarae ar gyfer teuluoedd lleol.”
Prif Weithredwr Grŵp WWH, Anne Hinchey
“Mae’r prosiect yn manteisio ar dalentau creadigol a photensial heb ei gyffwrdd pobl leol, gan gynnwys grŵp o’n preswylwyr, y maent wedi bod yn ymwneud â dylunio’r lle chwarae ar gyfer eu plant a chenedlaethau’r dyfodol.
“Mae’r gymuned o gwmpas Bryngaer Caerau wedi wynebu sialensiau cymdeithasol ac economaidd sylweddol, yn enwedig gyda phandemig Covid-19, felly mawr obeithiaf y bydd y lle chwarae yn cynnig oriau o hwyl a hapusrwydd i’r gymuned. Yn ogystal, mawr obeithiaf y bydd pobl ar draws Caerdydd a thu hwnt yn ymweld â’r safle hynod o arwyddocaol hwn ac yn ei fwynhau.”
“Bydd y cyllid arwyddocaol a hynod o hael hwn yn ein helpu i sicrhau bod Bryngaer Caerau yn lle arbennig iawn lle y gall pobl ifanc gael hwyl wrth iddynt ddysgu am orffennol hynafol pwysig eu cymuned.”
Ychwanegodd Dave Horton, Cyfarwyddwr ACE
“Mae’r cyllid hwn gan WWH yn gwneud cyfraniad mor bwysig i’r prosiect, yn enwedig ar gyfer teuluoedd lleol sydd â phlant ifanc ac y maent wedi bod yn colli cyfle i chwarae oherwydd prinder lleoedd chwarae lleol yn yr awyr agored. Yn ogystal, mae’n ffordd hwyliog a chyffrous i bobl leol ac ymwelwyr ddysgu am orffennol rhyfeddol y Bryngaer, gan weithredu fel porth i’r heneb yn agos iawn i ddechrau ein llwybr treftadaeth newydd”
Am y prosiect
Ffurfiwyd ACE – Action in Caerau and Ely – yn 2011 gan breswylwyr gyda chymorth rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. Mae’r sefydliad yn ceisio nodi, meithrin a dathlu’r sgiliau a’r adnoddau unigryw sydd wedi cael eu hanwybyddu neu eu hesgeuluso gan y rhai sy’n gweld y cymunedau lleol hyn fel ‘problem y mae angen ei datrys’. Mae ACE wedi datblygu amrediad o brosiectau a gweithgareddau, y mae nifer ohonynt yn cael eu cynnal yn eu canolfan gymunedol, Dusty Forge, gan gynnwys: siop a phantri bwyd, gerddi cymunedol, grwpiau iechyd a lles, prosiect celf cymunedol, cyfleoedd hyfforddiant, Caffi Trwsio a mwy.
Datblygwyd Prosiect y Bryngaer Cudd gan ACE mewn partneriaeth agos â phobl leol ac ysgolion, a chan gydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Cyngor Caerdydd ac Amgueddfa Caerdydd. Llwyddwyd i sicrhau grant o £830,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn cynnal prosiect sy’n werth £1.6 miliwn i greu Canolfan Dreftadaeth Bryngaer Cudd ar y safle, ynghyd â llwybrau treftadaeth hygyrch, gwaith dehongli, cyfleoedd dysgu a chyfleoedd creadigol.