Diwrnodau hwyl i blant Aberteifi
Roedd creu sleim, swigod enfawr a chasglu sbwriel ymhlith y gweithgareddau y bu plant ar ystad yn Aberteifi yn eu mwynhau ar ôl i dri sefydliad ddod ynghyd i gynnal cyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr haf.
Cynhaliodd Tai Wales & West, mewn partneriaeth â Thîm Plismona Bro Aberteifi a Chanolfan Blant Jig-so, raglen o weithgareddau Haf o Hwyl a lwyddodd i ddwyn cymdogion newydd ynghyd yng Ngolwg y Castell.
Dywedodd Rhiannon Ling, Swyddog Datblygu Cymunedol ar gyfer Tai Wales & West “Roedd hi’n braf bod allan unwaith eto yn cyflawni’r hyn yr ydym oll yn dwli arno, siarad gyda phreswylwyr a gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau.
“Bu’n gyfle i gyfarfod preswylwyr newydd a oedd wedi symud i’r ystad a hefyd, bu’n gyfle iddyn nhw gyfarfod ei gilydd. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, felly roedd hi’n braf gweld pobl yn cymysgu eto mewn ffordd ddiogel ac yn mwynhau’r sesiynau hwyliog.”
“Bu’r staff yn Jig-So wrth eu bodd wrth ddarparu nifer o sesiynau hwyliog i’r plant a’u teuluoedd ar ystad Golwg y Castell yn ystod gwyliau’r haf,” dywedodd Linda Grace, Ymddiriedolwr Canolfan Blant Jig-So.
“Hoffem ddiolch i’r teuluoedd am eu hadborth gwerthfawrogol. Bu’n gyfle i ni barhau ein gwaith gwerthfawr mewn partneriaeth wrth weithio gyda Thai Wales & West a’r Tîm Plismona bro.”
Yn ystod un digwyddiad, daeth tîm Plismona Bro Aberteifi â’u gorsaf symudol yno, a bu’r plant yn mwynhau’r cyfle i gael eu holion bysedd wedi’u cymryd a thrafod diogelwch cymunedol gyda’r heddlu.
Dywedodd llefarydd ar ran y tîm: “Rydym wedi ymrwymo i roi sylw i unrhyw bryderon plismona sy’n effeithio ar fywydau ein cymunedau, a bu hwn yn gyfle gwych i ni gyfarfod rhai o’n preswylwyr lleol.
“Mwynhaom ddod i adnabod y preswylwyr a bu’n braf iddyn nhw roi wyneb i ambell i enw yn y tîm heddweision bro lleol.
“Roedd y plant wedi mwynhau’r gweithgareddau yn fawr, ac mae rhai ohonynt wedi penderfynu eu bod yn dymuno bod yn heddweision pan fyddant yn hŷn nawr, sy’n rhywbeth hynod o werth chweil.
“Bu’n llwyddiant enfawr a chafwyd adborth cadarnhaol gan bawb a fynychodd ac a oedd wedi gwerthfawrogi presenoldeb yr heddlu.”