Ynglŷn â’r datblygiad hwn
Rydym yn gweithio i ailddatblygu hen safle Ysbyty Aberteifi fel y porth i’r dref, gan ddwyn cartrefi ecogyfeillgar a swyddfeydd newydd i’r ardal.
Cedwir y Priordy hanesyddol fel canolbwynt y datblygiad newydd o 20 o fflatiau ecogyfeillgar sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, ac y byddant ar gael i bobl leol am rhent fforddiadwy. Bydd yr ailddatblygiad yn creu caffi cymunedol yn y Priordy hefyd, ynghyd â gerddi cyhoeddus a llwybrau ar y safle,a hefyd, swyddfeydd ar gyfer ein staff, gan gynnwys canolfan ranbarthol ar gyfer ein cwmni cynnal a chadw mewnol, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.
Rydym yn gweithio gyda’n partner adeiladu hirdymor, T Richard Jones (Betws) Ltd, er mwyn darparu’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn y dref.
Cychwynnwyd ar y gwaith ar y safle ym mis Rhagfyr 2021 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.
Lleolir tref hynafol Aberteifi ar aber Afon Teifi. Mae’n gweithredu fel porth ar gyfer Dyffryn Teifi a Llwybrau Arfordir Ceredigion a Sir Benfro, ac mae’n lle poblogaidd ymhlith twristiaid.
Mae’r safle yn agos i ganol y dref, lle y ceir amrywiaeth o wasanaethau lleol gan gynnwys detholiad da o siopau sy’n cynnwys Marchnad Gradd II rhestredig yn Neuadd y Dref, cyfleusterau chwaraeon a mannau addoli gan gynnwys Eglwys Santes Fair sydd gerllaw.
Mae Aberteifi yn gartref i un o’r ardaloedd bywyd gwyllt gwlyptirol gorau yng Nghymru hefyd yng Nghorsydd Teifi.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y gwaith adeiladu, cysylltwch ag Andrew Davies
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun, anfonwch e-bost at development.queries@wwha.co.uk
Ar ôl eu cwblhau, caiff yr eiddo hyn eu neilltuo trwy gofrestr tai Cyngor Sir Ceredigion. Cânt eu rhentu trwy gofrestr tai Cyngor Sir Ceredigion i bobl hŷn lleol yn bennaf ac i’r rhai y gallent gael budd gan gartrefi cefnogol ac sy’n cynnig mynediad hawdd.
FAQs