Tai Wales & West yn cynorthwyo teuluoedd mewn angen yn Nhŷ Ronald McDonald Caerdydd
Gall teuluoedd y mae eu plant yn cael triniaeth yn Ysbyty Plant Arch Noa i Blant Cymru, aros yn agos i’w plant sâl gyda chymorth Tai Wales & West.
Mae’r darparwr tai wedi rhoi £5,000 ar ffurf nawdd i ymgyrch pen-blwydd 5 oed Tŷ Ronald McDonald Caerdydd er mwyn sicrhau nawdd o £5,000 yr un am 5 ystafell deuluol.
Bydd WWH yn noddi ystafell ‘Cambria’ yn Nhŷ Ronald McDonald Caerdydd. Agorwyd hwn yn 2017 ac mae’n cynnig llety ar ffurf ‘cartref oddi cartref’ a chymorth i deuluoedd o Dde Cymru ac ymhellach i ffwrdd, ac y mae ganddynt blant yn Ysbyty Plant Arch Noa, yn rhad ac am ddim. Mae’n cynnwys 30 o ystafelloedd gwely gydag ystafell ymolchi yn gysylltiedig i deuluoedd plant sy’n cael triniaeth yn yr ysbyty.
Ymwelodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey a’r Cadeirydd, Alex Ashton, â’r Tŷ i ddadorchuddio Ystafell Cambria yn swyddogol. Yn ystod eu hymweliad, cawsant eu tywys o gwmpas y cyfleusterau a’r cyfle i gymryd rhan mewn sioe anifeiliaid gwyllt – un o’r gweithgareddau niferus a drefnir ar gyfer y teuluoedd sy’n aros yno.
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey: “Mae nifer o deuluoedd y mae ganddynt blant yn yr ysbyty yn wynebu anawsterau emosiynol ac ariannol.
“Mae Elusennau Tŷ Ronald McDonald yn y DU yn cynnig cymorth amhrisiadwy i deuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf. Trwy ddarparu llety o ansawdd uchel am ddim, maent yn cynnig y cyfle i gannoedd o deuluoedd aros yn agos i’w plentyn sâl yn yr ysbyty a threulio amser fel teulu i ffwrdd o wardiau’r ysbyty.”
Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey
“Mae’n bleser gennym eu helpu i ddathlu eu pen-blwydd yn 5 oed trwy noddi Ystafell Cambria. Gyda’n cymorth ni, mawr obeithiwn y byddant yn parhau i wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd mewn angen am nifer o flynyddoedd i ddod.”
Darparwyd y nawdd gan Dai Wales & West fel rhan o’i chronfa Gwneud Gwahaniaeth, sy’n gweithio gyda’i chyflenwyr a’i chontractwyr i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol trwy gynorthwyo grwpiau chwaraeon a grwpiau cymunedol a phrosiectau lleol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl rai sy’n noddi ystafell yn Nhŷ Ronald McDonald Caerdydd. Mae Tai Wales & West yn cael effaith enfawr ar deuluoedd y mae ganddynt blant yn yr ysbyty trwy ein helpu i ddarparu llety ar ffurf gartref oddi cartref.”
Jordan Harbin, Swyddog Codi Arian Cymunedol a Chorfforaethol Cymru Elusennau Tŷ Ronald McDonald yn y DU