Profiad Gwaith: Alys a Tai Wales & West
Mae Alys wedi cael budd o gymryd rhan mewn lleoliad gwaith 3 wythnos gyda Thai Wales & West er mwyn helpu i’w chynorthwyo trwy ei gradd Daearyddiaeth Ddynol. Ar ddiwedd y lleoliad, treuliom ychydig amser gydag Alys er mwyn deall ei phrofiad a pham y byddai hi’n argymell y dylai eraill fanteisio ar leoliadau gwaith gyda Thai Wales & West.
C: Sut benderfynaist ti ddilyn lleoliad gwaith gyda Thai Wales & West?
Gweithiais gyda’r tîm lleoliadau gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn darganfod pa sefydliadau fyddai’r rhai mwyaf perthnasol i’m gradd. Soniont am gymdeithas tai oherwydd y ffocws ym maes Daearyddiaeth Ddynol ar ryngweithio rhwng pobl ac effeithiau’r man lle y mae pobl yn byw ar anghydraddoldeb cymdeithasol. Roedd gweld gwaith go iawn cymdeithas tai yn swnio fel syniad gwych, oherwydd pan fyddwch chi mewn darlithoedd yn y brifysgol, mae’n ystafell ddosbarth a dim ond y theori y gallwch ei drafod: byddwch yn dysgu llawer mwy o’i weld a bod allan. Felly dyna pam y cefais fy nenu i ddilyn lleoliad gwaith ym maes tai.
Gwneuthum rywfaint o waith ymchwil ar-lein i chwilio am gymdeithasau Tai sy’n gweithredu yn Ne Cymru ac anfonais fy CV a llythyr eglurhaol at sawl sefydliad. Ymatebodd Tai Wales & West cyn pen mis, gan gynnig lleoliad i mi dros yr haf, a derbyniais y cynnig ar unwaith!
C: Sut fu’r profiad gyda Thîm Gyrfaoedd Tai Wales & West? Pa mor dda y trefnwyd dy leoliad gwaith?
Cefais fynediad i bob rhan o’r sefydliad y byddwn wedi dymuno cael mynediad iddynt ar y cyfan! Pe byddwn yn dweud ar ddechrau’r wythnos, “Mae gen i ddiddordeb mewn ystyried rôl Swyddogion Datblygu Cymunedol a gweld yr hyn y maent yn ei wneud”, byddai hynny yn cael ei hwyluso. Hyd yn oed pan fyddai adegau pan fyddai aelodau’r tîm i ffwrdd ar wyliau blynyddol, trefnwyd y byddwn yn cael cyfarfodydd gyda phobl o’r timau hynny er mwyn helpu i roi dealltwriaeth i mi o’u swydd. Cefais un cyfarfod o’r fath gyda Hannah, sy’n gweithio gryn dipyn gyda’r tîm datblygu. Roedd hi’n wych ac roeddwn wedi gallu gofyn llwyth o gwestiynau, ac atebodd Hannah bob un ohonynt! Dim ond awr oedd y cyfarfod fod para. Buom yno am tua awr a hanner i 2 awr! Felly hyd yn oed pan na fyddai modd cynnal rhai ymweliadau safle, byddai rhywbeth wastad yn cael ei drefnu i mi.
Roedd yn hyblyg iawn trwy fy amser yma hefyd. Pan oeddwn allan gyda Swyddogion Tai, roeddwn wedi holi am y camau y mae Tai Wales & West yn eu cymryd i sicrhau bod y bobl gywir yn yr eiddo cywir. Dywedodd y Swyddog Tai wrthyf am y Tîm Dewisiadau Tai a’u rôl nhw yn y broses, felly rhoddais adborth y byddwn yn hoffi treulio ychydig amser gyda nhw, ac erbyn yr wythnos wedyn, neilltuwyd amser yn fy nyddiadur i’w dreulio gyda nhw. Roedd Tai Wales & West yn gymwynasgar iawn ac roeddwn yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau yr oeddwn yn dymuno eu gofyn.
C: Beth fu rhai o’r pethau y profaist ti yn ystod y 3 wythnos gyda Thai Wales & West?
Treuliwyd yr wythnos gyntaf yn y swyddfa, a mynychais y rhaglen hyfforddiant ymsefydlu corfforaethol, a fu o gymorth mawr oherwydd fy mod wedi gallu cael ymdeimlad bras o’r sefydliad. Roedd hwn bron fel gwib ganlyn gyda phobl o nifer o wahanol adrannau, a bu modd i mi weld yr hyn y maent yn ei wneud, a sut y maent yn cyfrannu i’r sefydliad.
Treuliais fwy o amser yn mynd o le i le yn ystod yr ail wythnos. Treuliais ddau ddiwrnod gyda swyddogion tai, Danielle a Dayne, a fu’n wych gan eu bod wedi fy nhywys o gwmpas sawl eiddo Tai Wales & West gwahanol y maent yn gofalu amdanynt. Cefais gyfle i’w cysgodi yn eu gwaith dyddiol a gweld y problemau y maent yn delio â nhw. Cyfarfûm â nifer o breswylwyr, a fu’n agoriad llygad ac a roddodd cymaint o ddirnadaeth i mi er mwyn fy helpu i ddeall y berthynas rhwng Tai Wales & West a’i phreswylwyr.
Yn ogystal, treuliais rai diwrnodau gyda Herman, sy’n Swyddog Datblygu Cymunedol. Bu hwn yn brofiad hwyliog iawn! Mynychom rai digwyddiadau cymunedol, a threfnwyd un o’r rhain gan y gwasanaethau brys, lle’r oedd gan Dai Wales & West stondin wybodaeth. Byddai pobl yn ymweld â phob stondin i gael dealltwriaeth bellach o’r hyn y mae’r sefydliadau a gynrychiolwyd yno yn ei wneud. Byddai pobl yn troi ataf ac yn gofyn rhai cwestiynau i mi. Roeddwn yn gallu helpu gyda rhai a byddai angen i mi gyfeirio rhai eraill at rywun arall. Roedd nifer fawr o’r bobl yn y digwyddiad yn breswylwyr ac roeddent yn gofyn am wybodaeth benodol, felly byddwn yn eu cyfeirio at Herman a Sarah, a oedd yno i helpu ar y diwrnod!
Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld nad unig waith y sefydliad hwn yw chwilio am dai ar gyfer pobl. Maent yn helpu i greu cymunedau hefyd ac maent wedi ymrwymo i ddarganfod ffyrdd o gynorthwyo preswylwyr er mwyn sicrhau eu bod wir yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a’u bod yn cael y gwasanaeth y maent yn ei ddymuno.
Yn fyr, mae’r dair wythnos wedi bod yn rhai llawn ac maent wedi cynnwys cryn dipyn o amrywiaeth!
“Llwyddais i gael profiad ymarferol, a thrwy weld beth y mae pob rôl yn ei gynnwys, rydw i wedi gallu deall a fyddent yn ddewisiadau gyrfa da i mi neu beidio”
C: Sut mae’r hyn yr wyt ti wedi ei ddysgu yn cysylltu â’r cwrs gradd yr wyt yn ei astudio?
Mae’r lleoliad wedi bod mor ddefnyddiol ar gyfer fy ngradd gan ei fod yn cynnig persbectif o’r byd go iawn ynghylch y theori yr wyf yn ei astudio yn yr ystafell ddosbarth. Rydym yn cyffwrdd ar dai yng nghynnwys y cwrs, ond nid yw’n cael sylw manwl. Ac nid yw maint yr angen am dai yn cael ei gyfleu, yn ogystal â’r agweddau gwahanol ar gynllunio datblygiad tai a’r gwasanaethau cymorth a gynigir gan y sefydliad.
Yn gynharach eleni, ysgrifennais ddarn o waith cwrs am anghydraddoldeb cymdeithasol ac roeddwn yn edrych ar astudiaeth achos am Gaerdydd a sut y mae ardaloedd difreintiedig wedi esblygu dros y blynyddoedd. Rydw i wedi darllen llawer am y pwnc, gan ymchwilio i’r cefndir yn fanwl. Ond heb ei weld gyda fy llygaid fy hun, faint o bersbectif y byddwn yn ei gael mewn gwirionedd? Felly trwy gwblhau’r lleoliad hwn, roeddwn yn gallu gweld maint y broblem tai yng Nghymru a’r angen am dai cymdeithasol, nid ystyried y theori yn unig yn y brifysgol.
Mae’r lleoliad hwn wedi helpu i ddwyn yr ymarferoldeb i’r theori.
C: A fyddech chi’n argymell lleoliad gwaith gyda Thai Wales & West?
Heb os, byddwn yn argymell lleoliadau gwaith gyda Thai Wales & West. Mae’n beth da iawn cael y profiad hwn os nad ydych yn siŵr pa yrfa yr hoffech ei dilyn. Gyda Thai Wales & West, rydw i wedi cael profiad o nifer o wahanol adrannau megis cyllid, gwaith cymunedol, datblygu adeiladu a llawer mwy. I rywun fel fi, nad oeddwn wir yn gwybod yr hyn yr oeddwn yn dymuno ei wneud ar ôl graddio, rydw i wedi gallu cael y profiad ymarferol hwnnw a thrwy weld yr hyn y mae’r rolau hynny yn ei gynnwys a’r hyn y maent yn ei wneud, rydw i wedi gallu deall a fyddent yn ddewisiadau gyrfa da i mi neu beidio. Bellach, mae gennyf fwy o ffocws ar y mathau o rolau y mae’n debygol y byddwn yn eu mwynhau a’r mathau o yrfaoedd y byddai gennyf y sgiliau i’w cyflawni ar ôl graddio. Diolch Tai Wales & West!
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwblhau lleoliad gwaith gyda Thai Wales & West, anfonwch e-bost at Careers@wwha.co.uk i siarad gyda’r tîm am y cyfle gorau i chi.