Newyddion

19/09/2023

Agoriad swyddogol cynllun gofal ychwanegol Treffynnon gan Brif Weinidog Cymru

(l to r) Janet Bellis (Flintshire Council) with Mark Drakeford and Alex Ashton (Wales & West Housing)

(l to r) Janet Bellis (Flintshire Council) with Mark Drakeford and Alex Ashton (Wales & West Housing)


Yn ystod dathliad dan arweiniad Prif Weinidog Cymru, nodwyd trawsnewidiad darn o goetir hynafol yn Sir y Fflint o fod yn safle ysgol gynradd i fod yn gynllun gofal ychwanegol, gan sicrhau ei ddefnydd parhaus ar gyfer gwahanol genedlaethau yn y gymuned.

Ymunodd preswylwyr a chôr ysgol gyda’r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS ar gyfer agoriad swyddogol cynllun gofal ychwanegol Plas yr Ywen Tai Wales & West yn Nhreffynnon.

Yn ogystal, dadorchuddiodd fainc ar thema cyfeillgarwch a gomisiynwyd gan Dai Wales & West i ddynodi Mis Cenedlaethol Cyfeillgarwch.

Gwnaethpwyd y fainc gan The Willow Collective, melin gymunedol yng Ngorllewin Y Rhyl sy’n helpu pobl ifanc yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Ngogledd Cymru i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad gwaith gwerthfawr. Caiff ei gosod ar lwybr coetir y cynllun i’r preswylwyr ei mwynhau.

“Rydw i’n falch ein bod wedi gallu darparu cyllid ar gyfer Plas yr Ywen. Bu’n bleser gweld y llety o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i bobl leol yma yn Sir y Fflint.”

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Diogelwyd y coetir hynafol fel nodwedd Ysgol Perth y Terfyn pan ddymchwelwyd yr ysgol er mwyn gwneud lle ar gyfer Plas yr Ywen, a adeiladwyd gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnig cyfleoedd byw gyda gofal ychwanegol y mae cryn angen amdanynt ar gyfer preswylwyr dros 50 oed.

Unodd Ysgol Perth y Terfyn i greu ysgol gynradd newydd, sef Ysgol Maes y Felin, a bu disgyblion presennol yr ysgol yn perfformio dwy gân a cherdd i ddathlu’r agoriad swyddogol ar ddydd Gwener 15 Medi.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West: “Mae’n hyfryd gweld bod y safle a arferai fod yn ysgol gynradd yn parhau i fod yn gyfleuster pwysig i bobl yn Nhreffynnon, fel cartref i dros 60 o breswylwyr.

“Rydym yn gwybod bod gofal ychwanegol yn cyflawni rôl hanfodol wrth helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd, felly roedd hi’n addas ein bod yn gallu dathlu cyfeillgarwch ar ffurf y fainc newydd, a mawr obeithiwn y bydd preswylwyr yn ei mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Rydw i’n falch ein bod wedi gallu darparu cyllid ar gyfer Plas yr Ywen. Bu’n bleser gweld y llety o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i bobl leol yma yn Sir y Fflint.

“Mae hi wastad yn dda gweld ein tir cyhoeddus yn cael ei ailddefnyddio er budd y gymuned, ac yn arbennig, gweld bod y coetir hynafol wedi cael ei gadw fel y gall preswylwyr barhau i fwynhau’r coed a’r bywyd gwyllt hyfryd am flynyddoedd i ddod.”

Bench unveiled by First Minister Mark Drakeford at Plas yr Ywen extra care scheme official opening

Dywedodd Cyng Christine Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Lles: “Plas Yr Ywen yw’r pedwerydd cynllun gofal ychwanegol yn Sir y Fflint ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnig mwy o gyfleoedd byw gyda gofal ychwanegol i breswylwyr dros 50 oed.

“Ar ôl ei agor yn 2021, mae Plas Yr Ywen wedi dod yn lle bywiog a chyffrous i fyw ac rydym yn edrych ymlaen i barhau i gynorthwyo’r gymuned.”

Mae tai gofal ychwanegol yn cynnig y rhyddid i bobl fyw bywyd annibynnol yn eu cartref eu hunain, gyda’r sicrwydd y gallant fanteisio ar ofal a chymorth ar y safle.

Mae Plas yr Ywen yn cynnwys 55 o fflatiau sy’n cynnwys ystafelloedd cawod â mynediad gwastad, ceginau gosod cyfoes ac ystafelloedd ymolchi â chymorth. Mae’r cyfleusterau eraill yn cynnwys bwyty ar y safle, cyfleusterau golchi dillad, storfa ar gyfer sgwteri symudedd, ystafell ar gyfer gwesteion ac ardaloedd lolfa.

I gael gwybod mwy ar-lein, trowch at: https://www.wwha.co.uk/cy/property-extra-care/plas-yr-ywen-treffynnon/

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru