Aelod Bwrdd Tai Wales & West yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad i gydraddoldeb hil a chynhwysiant
Llongyfarchiadau i un o’n haelodau Bwrdd sydd wedi gwasanaethau hiraf ar y corff, sef Ivor Gittins, sydd wedi cael Gwobr Cymuned Hanes Pobl Ddu Cymru am ei gyfraniad i gydraddoldeb hil a chynhwysiant.
Yn gynharach y mis hwn (Hydref 2023) mynychodd Ivor y Senedd, lle y cyflwynwyd Gwobr Race Council Cymru iddo gan AS Jane Hutt.
Mae ei wobr yn dilyn bron i 30 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol yn gweithio yn ei gymuned yn Ne Cymru, gan gynnwys ei aelodaeth ar Fwrdd llywodraethu Tai Wales & West, a gychwynnodd ym 1994. Dros y blynyddoedd, mae Ivor wedi bod yn aelod o Bwyllgor Prawf De Morgannwg ac Awdurdod Heddlu De Cymru, ynghyd â Bwrdd Monitro Annibynnol Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hefyd wedi neilltuo ei amser fel llywodraethwr dwy ysgol yng Nghaerdydd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, lle y bu Betty Campbell, pennaeth du cyntaf Cymru, wrth y llyw ac yn Ysgol Gynradd Parc Ninian, lle y mae’n Is-Gadeirydd ar hyn o bryd.
Dywedodd Ivor “Cefais yr anrhydedd o ennill y wobr. Nid ydw i’n gwybod pwy oedd wedi cynnig fy enw, ond teimlaf ei bod yn fraint bod ymhlith cymaint o bobl ysbrydoledig sy’n hyrwyddo cydraddoldeb hil ar draws Cymru.”
“Pan ymunais â Bwrdd Tai Wales & West yn gyntaf, roeddwn yn dymuno gwneud rhywbeth gwahanol ar ôl treulio bron i 30 mlynedd yn yr Awyrlu Brenhinol.
“Roedd WWH wedi credu ynof pan gefais fy mhenodi yn Gadeirydd ac roedd hynny wedi rhoi’r gred i mi y gallwn wneud pethau i wneud gwahaniaeth i bobl o gefndiroedd eraill hefyd.”
Ivor Gittens
Dyma’r ail dro i Ivor gael ei wahodd i’r Senedd eleni. Ym mis Mehefin, bu’n siarad yn ystod digwyddiad arbennig i gofio 75 mlynedd ers i MV Empire Windrush gyrraedd y DU gyda’r mewnfudwyr cyntaf ar ôl y rhyfel o’r Caribî.
Rhannodd Ivor ei brofiad ef o gyrraedd y DU fel rhan o genhedlaeth Windrush a bu ei stori yn rhan o arddangosfa Windrush Cymru hefyd.
Dyma stori Ivor yn ei eiriau ef.
“Roedd cyrraedd Llundain yn ychydig o sioc. Mis Hydref 1961 oedd hi, ac nid oeddwn yn barod am yr hinsawdd.”
Ivor Gittens
Pan adewais fy nghartref yn Bridgetown, Barbados, roedd hi’n haf. Ni welais yr haul am flwyddyn arall!! Roedd Llundain mor oer a llwyd, ac roedd y mwrllwch yn wael. Rydw i’n cofio gweld casglwr tocynnau yn cerdded o flaen bws yn cario tortsh i’w cyfeirio gan na allech chi weld.
Deuthum i Loegr o ganlyniad i’r hyn a gredais a oedd yn drefniant rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Barbados a Thrafnidiaeth Llundain. Roeddwn yn 23 oed ar y pryd ac yn gweithio fel trydanwr yn Barbados, gan helpu i adeiladu’r harbwr dŵr dwfn.
Hedfanais i’r DU gyda grŵp o weithwyr. Aeth rhai i weithio ar y bysiau, ac eraill ar y trenau. Roeddwn i yn un o blith grŵp a ddaeth i weithio ar Reilffordd Danddaearol Llundain.
Roeddwn yn ffodus gan bod Trafnidiaeth Llundain wedi rhoi gwisg a chôt gynnes i mi, gan nad oedd gennyf unrhyw ddillad ar gyfer y gaeaf yn y DU.
Yn y lle cyntaf, bûm yn rhannu tŷ yn Tooting Broadway, yna euthum i letya gyda menyw o Jamaica, yr oedd ganddi ei thŷ ei hun. Cyfarfûm â’m gwraig gyntaf yn Llundain, a oedd yn dod o Barbados hefyd.
Roedd Llundain yn brysur. Roedd hi’n ymddangos fel pe bai pawb yn rhuthro i rywle, nid oeddent yn stopio i siarad, ond nid oedd ots gennyf am hynny.
Un diwrnod amser cinio, euthum i swyddfa gwybodaeth gyrfaoedd a siarad gyda dyn am ymuno â’r Awyrlu Brenhinol. Trefnont i mi sefyll yr arholiad, ac yn y mis Mawrth dilynol, ymunais fel Swyddog Awyrennau Uwch.
Ar ôl fy hyfforddiant sylfaenol, bûm yn gweithio yng Nghyprus lle y ganwyd fy nwy ferch. Yn ystod fy ngyrfa gyda’r Awyrlu, gweithiais yn Singapôr, Gorllewin Berlin, a’r DU.
Deuthum i Gymru am y tro cyntaf ym 1981, i weithio fel hyfforddwr trydanol yn RAF Sain Tathan a dychwelais yno ar ôl i mi ymddeol. Cyfarfûm â’m ail wraig yng Nghaerdydd gan setlo yn Ne Cymru.
“Roeddwn yn hapus fy mod wedi ymuno â’r Awyrlu Brenhinol, gan ei fod wedi rhoi bywyd hollol wahanol i mi, gan gynnig nifer fawr o gyfleoedd a phrofiadau o wahanol leoedd, pobl a diwylliannau.”
Ivor Gittens
Roedd wedi fy siapio i fod y person yr wyf heddiw, ac mae wedi caniatáu i mi neilltuo fy amser yn gwirfoddoli gyda chymaint o sefydliadau eraill.”