“Rydw i’n teimlo y byddaf yn hapus yn byw yma.”
Yn ein datblygiad newydd yn Sir Gaerfyrddin, roeddem wedi llwyddo i ddarparu cartref diogel a pharhaol i ddyn ifanc a oedd yn wynebu bod yn ddigartref.
Symudodd George Law i’w fflat un ystafell wely newydd ym Maes Yr Hufenfa ar ôl i’r llety â chymorth yr oedd yn byw ynddo gael ei gondemnio.
“Roeddwn yn ddigartref i bob pwrpas,” esboniodd George.
Bu modd i ni gynnig fflat un ystafell wely i George, a oedd yn cynnwys ystafell wlyb ar y llawr gwaelod, cegin, ystafell fyw a gardd ym Maes Yr Hufenfa. Y datblygiad hwn yw ein cynllun tai rhent fforddiadwy cyntaf yn nhref Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n cynnwys 45 o dai, fflatiau a byngalos ac fe’i adeiladwyd mewn partneriaeth â’n partneriaid adeiladu hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd ar safle hen hufenfa.
“Roedd fy nghartref blaenorol mewn hen adeilad cerrig a oedd yn cynnwys fflatiau un ystafell wely. Roedd y fflatiau yn oer ac yn llaith. Mae fy fflat newydd yn llawer cynhesach ac mae gennyf lawer mwy o le.”
Preswylydd newydd, George Law
Symudodd George i mewn ym mis Gorffennaf gyda chymorth ei deulu. Roedd Tai Wales & West wedi ei helpu i fanteisio ar Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) er mwyn darparu nwyddau gwynion hanfodol yn ei gartref newydd megis cwcer, microdon, sosbenni, peiriant golchi dillad, gwely a chadair.
Ers iddo symud i mewn gyda’i anifeiliaid, sef cath a Pheithon Frenhinol, mae George yn dweud ei fod yn rhoi ei stamp ei hun ar y lle.
“Rydw i’n teimlo y byddaf yn hapus yn byw yma.”
Ymhellach i lawr y stryd, mae Tom Carpenter, sy’n dad amser llawn, yn dweud bod ei gartref newydd wedi cynnig y rhyddid i’w ddwy ferch ifanc “fod yn blant unwaith eto.”
Roedd Tom yn rhentu fflat un ystafell wely preifat gyda’i ddwy ferch ifanc, Willow sy’n dair oed ac Amelia sy’n saith oed.
“Ni allai’r tŷ fod wedi dod ar adeg gwell,” dywedodd Tom. “Roeddem oll yn byw ar ben ein gilydd mewn fflat bach. Roedd y merched yn cysgu yn yr ystafell wely ac roeddwn i yn cysgu ar y soffa. Roeddent y tu mewn drwy’r amser ac nid oedd ganddynt unrhyw le i chwarae.”
Tom Carpenter
“Mae’r tŷ yn mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i ni. Mae gennym gymaint yn fwy o le a’n hystafelloedd gwely ein hunain.”