Sut i wefru a storio eich e-feic neu e-sgwter yn ddiogel
Gall gwefru e-sgwteri a beiciau fod yn beryglus, yn ôl ymatebwyr cyntaf.
Yn ddiweddar, daethant i’r casgliad ei bod yn debygol mai achos tân mewn tŷ yn Hove, Lloegr, oedd batri e-feic.
Mae gwasanaethau tân yn amlygu’r risgiau sy’n codi wrth wefru batris lithiwm-ïon, sy’n gyffredin mewn e-feiciau ac e-sgwteri.
Sut i wefru a storio eich e-feic/e-sgwter yn ddiogel
Os ydych chi’n prynu e-feic, e-sgwter neu fatri newydd, gwyliwch sut i’w defnyddio mewn ffordd ddiogel.
Dilynwch y cyngor hwn er mwyn eu gwefru yn ddiogel:
- Storiwch eich e-feic neu’ch e-sgwter y tu allan mewn garej neu sied os oes modd
- Dylech gadw llwybrau dianc ac allanfeydd yn glir os bydd angen i chi ei wefru y tu mewn
- Gadewch i’r batri oeri cyn ei wefru ac yna, tynnwch y plwg allan ar ôl iddo orffen. Peidiwch â gor-wefru’r batri
- Peidiwch â gwefru’r cerbyd pan fyddwch yn cysgu neu pan na fydd unrhyw un gerllaw
- Archwiliwch eich batri yn rheolaidd am arwyddion o ddifrod, yn enwedig os byddwch yn ei gwympo neu’n cael damwain ar eich e-feic/e-sgwter. Gall batris wedi’u difrodi ordwymo neu fynd ar dân
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol
Prynwch gan werthwr dibynadwy
Nid yw hyn yn berthnasol i brynu e-feic neu e-sgwter ar ddydd Gwener Gwario a dros y Nadolig yn unig.
Os byddwch yn prynu mewn marchnad ar-lein, efallai na fydd y cynnyrch yn bodloni safonau diogelwch y DU.
Edrychwch am farc CE ar y cynnyrch a’r deunydd pacio, fel y dangosir isod.
Efallai y bydd cynhyrchion nad ydynt yn bodloni safonau diogelwch y DU wedi cael eu difrodi ac efallai y byddant yn fwy tebygol o fynd ar dân.
Cofrestrwch eich e-feic neu e-sgwter
Gallwch ddilysu gwarantiadau os byddwch yn cofrestru eich cynnyrch gyda’r cynhyrchwr. Mae hyn yn cynnwys batris.
Os bydd unrhyw broblemau diogelwch yn codi gyda’ch e-feic neu e-sgwter yn nes ymlaen, bydd hi’n haws i’r cynhyrchwr gysylltu â chi.
Lluniwch gynllun dianc yn eich cartref
Gallai gwybod yr hyn i’w wneud a ble i fynd os bydd tân yn eich cartref arbed eich bywyd.
Dylech baratoi ac ymarfer yr hyn y byddech yn ei wneud pe bai tân yn eich cartref.
Sicrhewch bod y larymau mwg yn eich cartref yn gweithio trwy eu profi bob wythnos. Gwyliwch sut i archwilio eich larwm mwg.
Os bydd eich e-feic, eich e-sgwter neu unrhyw fatri lithiwm-ïon arall yn mynd ar dân, peidiwch â cheisio ei ddiffodd.
Ewch allan, arhoswch allan, ffoniwch 999 os bydd tân yn eich cartref.
Cyngor gan eich gwasanaeth tân lleol