Mae Staff Grŵp Tai Wales & West wedi rhoi mwy na £42,200 i Ambiwlans Awyr Cymru a Beiciau Gwaed Cymru
Bydd y ddwy elusen iechyd sy’n cynnal teithiau achub bywyd ledled Cymru yn rhannu £42,222, arian a godwyd gan staff Grŵp Tai Wales & West (GTWW).
Dyma’r mwyaf y mae staff GTWW wedi’i godi dros ddwy flynedd; Mae Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) a Beiciau Gwaed Cymru wedi derbyn £21,111 yr un.
Ymwelodd staff o Dai Wales & West a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a gwirfoddolwyr Beiciau Gwaed Cymru â Hofrenfa Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaerdydd lle cawsant daith o amgylch y cyfleusterau brys cyn cyhoeddi’r arian a godwyd i’r ddwy elusen.
Bydd yr arian a godir yn helpu AAC i fynychu wyth taith. Dyna wyth set o deuluoedd, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan bob taith, felly mae nifer y rhai sy’n cael cymorth yn llawer uwch. Gellir defnyddio’r rhodd hefyd i gefnogi cleifion ar ôl eu salwch neu anaf, trwy Wasanaeth Cleifion ac ôl-ofal pwrpasol yr elusen. Mae llawer o’r cleifion a fynychwyd gan yr elusen sy’n gweithredu dros Gymru gyfan wedi dioddef o ddigwyddiad trawmatig, sy’n aml wedi gallu newid bywyd yn sydyn, ond gall y nyrsys cyswllt cleifion ymroddedig gynnig cymorth parhaus i gleifion a’u teuluoedd.
Bydd y rhodd hefyd yn talu am y gost o roi Beic Gwaed ychwanegol ar y ffordd, a fydd yn cael ei enwi gan staff GTWW.
Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen 100% wirfoddol sy’n darparu negesydd beiciau modur am ddim i’r GIG ledled Cymru gan ddosbarthu samplau gwaed, plasma, llaeth dynol a roddwyd, dogfennau meddygol ac eitemau eraill ledled Cymru. Mae’n cael ei ariannu’n llwyr gan roddion gan y cyhoedd.
Dywedodd Lesley Isaacs-Penny, Is-Gadeirydd Beiciau Gwaed Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb yng Ngrŵp Tai Wales & West am eu haelioni. Rwy’n credu mai dyma’r mwyaf o arian y mae ein helusen erioed wedi’i dderbyn o godi arian cyhoeddus mewn un rhodd.
“Mae codi arian yn anoddach nag erioed gan ein bod yn dod yn gymdeithas sy’n fwy ddi-arian, felly bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n gwaith. Bydd yn llythrennol yn cadw ein holwynion i droi.”
Lesley Isaacs-Penny, Is-Gadeirydd Beiciau Gwaed Cymru
Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd, bydd yr arian yn helpu i alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei genhadaeth o ddarparu gofal meddygol uwch sy’n achub bywydau i bobl ledled Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y mae ei angen arnynt.
Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn wirioneddol ostyngedig am y gefnogaeth a gawsom gan Grŵp Tai Wales & West. Bydd yr arian a godir yn gwneud gwahaniaeth i achub bywydau’r rhai sy’n dioddef o salwch neu anaf sy’n bygwth bywyd.
“Oni bai am haelioni pobl Cymru, yn syml iawn ni fyddai ein gwasanaeth 24/7 yn bodoli, ac mae rhoddion fel hyn yn ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau. Diolch i bawb a fu’n ymwneud â chodi swm mor syfrdanol i ni ac i Feiciau Gwaed Cymru.”
“Rydym yn wirioneddol ostyngedig am y gefnogaeth a gawsom gan Grŵp Tai Wales & West.”
Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Ambiwlans Awyr Cymru
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey: “Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi dwy elusen anhygoel a’u helpu i barhau i gyflawni eu gwaith achub bywyd.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein staff wedi bod mor hael ac wedi dod o hyd i gymaint o ffyrdd i godi arian. Mae rafflau blynyddol dros y Nadolig a chynhadledd staff Cambria wedi parhau i godi symiau enfawr o arian.
Ar ben hynny lansiom loteri staff y llynedd, sydd wedi tyfu bob mis gan roi swm cynyddol o arian tuag at ein rhoddion elusennol. Fe wnaethom hefyd ddechrau menter lleihau gwastraff lle gallai staff brynu hen ffonau cwmni, gliniaduron ac iPads gyda’r arian a godir yn mynd i helpu’r elusennau.
“Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae ein holl staff wedi codi’r swm gwych hwn o arian i wneud cymaint o wahaniaeth i’r ddwy elusen.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West
Ers 2006 mae staff GTWW wedi codi dros £200,000 ar gyfer elusennau sy’n gynnwys Mind Cymru, Age Cymru, Cymdeithas Strôc, Help For Heroes, Cymdeithas Alzheimer, NSPCC, Tenovus a Chŵn Tywys. Ar hyn o bryd maent yn codi arian ar gyfer pedair elusen – Cymdeithas Clefyd Motor Niwron (MND), Parlys yr Ymennydd Cymru, Parkinson’s UK Cymru a Cymru Versus Arthritis.