Y cyfreithiau am gŵn XL Bully
Daeth cyfreithiau newydd ynghylch perchnogaeth cŵn XL Bully i rym ar 31 Rhagfyr 2023, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon prynu, magu, gwerthu neu roi’r cŵn yma i ffwrdd neu fynd allan â nhw heb safnrhwym.
Ar ôl 1 Chwefror 2024, mae hefyd yn anghyfreithlon bod yn berchen ar gi XL bully heb dystysgrif eithrio.
Fel landlord, credwn bod perchnogaeth anifeiliaid anwes cyfrifol yn bwysig, ar gyfer diogelwch preswylwyr a staff ac ar gyfer lles anifeiliaid.
Dan amodau eich contract, rhaid i bob preswylydd ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes. Ni roddir caniatâd am unrhyw fath o gi sy’n cael eu cynnwys yn Neddf Cŵn Peryglus 1991, a fydd bellach yn cynnwys cŵn XL Bully.
Os ydych chi’n berchen ar anifail o’r fath ac os nad oes gennych chi yr eithriad cywir, gallech fod yn torri amodau eich contract.
Sut i gael tystysgrif eithrio
Gallwch weld arweiniad ynghylch sut i gael tystysgrif ar wefan y Llywodraeth.
Er mwyn cofrestru ci XL Bully, mae’r Llywodraeth yn nodi bod yn rhaid bod gan berchnogion yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gweithredol ar gyfer eu ci, rhaid bod y ci wedi cael ei ficrosglodynnu, ac mae’n rhaid iddynt dalu’r ffi ymgeisio. Bydd gofyn i berchnogion ddarparu prawf hefyd o’r ffaith bod eu ci wedi cael ei niwtro.
Hyfforddiant safnrhwym
Mae gan elusennau anifeiliaid gan gynnwys PDSA a’r Ymddiriedolaeth Cŵn nifer fawr o fideos a gwybodaeth er mwyn helpu perchnogion i hyfforddi eu cŵn XL Bully i wisgo safnrhwym.
A ydych chi’n berchennog XL Bully sy’n gofidio?
Os ydych chi’n breswylydd ac os ydych chi’n gofidio am eich ci XL Bully, ffoniwch ni ar 0800 052 2526
Sut i adrodd am gŵn lle y ceir amheuaeth eu bod yn anghyfreithlon
Os ydych chi’n pryderu bod cŵn anghyfreithlon yn eich ardal ar ôl 1 Chwefror, ffoniwch 101 ac adroddwch amdano i’r heddlu.