Canolfan gymunedol yn dathlu pen-blwydd yn 10 oed
Bu grwpiau cymunedol a phreswylwyr lleol yn dathlu effaith gadarnhaol y ganolfan gymunedol yn Wrecsam wrth iddi nodi ei phen-blwydd yn 10 oed.
Agorodd Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn 2014 ar Heol Bryn-y-Cabanau fel rhan o waith ailddatblygu ardal Hightown, a hefyd welodd cartrefi newydd a chanolfan feddygol yn cael eu hadeiladu.
Tai Wales & West sy’n berchen ac yn rhedeg y ganolfan, ac mae wedi sefydlu ei hun fel cyfleuster cymunedol bywiog, gan gynnal gweithgareddau o garate i ddawnsio llinell i rieni a phlant bach a grwpiau crefft.
Mae hefyd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau cost isel ar gyfer y gymuned leol drwy gydol y flwyddyn.
Trefnir y rhain gyda chefnogaeth grŵp a arweinir gan wirfoddolwyr, Cyfeillion Canolfan Gymunedol Hightown.
Mynychodd defnyddwyr cyson y ganolfan ddigwyddiad dathlu pen-blwydd yn 10 oed a oedd yn cynnwys perfformiad gan gôr Ysgol Bodhyfryd a chyflwyno gwobrau i wirfoddolwyr.
“Rydym yn falch o bopeth mae’r ganolfan wedi’i gyflawni a’n holl wirfoddolwyr a chefnogwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud ein digwyddiadau yn arbennig iawn.”
Annette Bryden, Rheolwr Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown
Cafodd y cais buddugol o gystadleuaeth dylunio plac – yn canolbwyntio ar y thema cymuned – ei ddadorchuddio ar y diwrnod hefyd.
Gwnaed y cynllun mewn i blac gan ddefnyddio caniau tun wedi’u hailgylchu a bydd yn awr yn cael ei arddangos yn barhaol yn y ganolfan.
Dywedodd Annette Bryden, Rheolwr Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown: “Cawsom ddiwrnod arbennig yn dathlu ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn mynychu.
“Rydym yn falch o bopeth mae’r ganolfan wedi’i gyflawni a’n holl wirfoddolwyr a chefnogwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud ein digwyddiadau yn arbennig iawn.”
Dywedodd Gareth Jones, Cadeirydd Cyfeillion Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown: “Mae deng mlynedd wedi hedfan heibio! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wneud y ganolfan yn gymaint o lwyddiant a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i lawer o fywydau.”
Dysgwch fwy am weithgareddau yn y ganolfan drwy ymweld â thudalen Facebook Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown