Newyddion

30/08/2024

Mae In Touch ein cylchgrawn i breswylwyr yn mynd yn ddigidol

Gyda mwy o bobl yn dewis darllen eu newyddion ar-lein, a’n hymrwymiad i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy, rydym wedi creu gwefan bwrpasol newydd ar gyfer In Touch. 

Mae’r cylchgrawn ar-lein yn cynnig newyddion wrth ein preswylwyr a’n cymunedau ynghyd â’r hyn rydym yn ei wneud yn Nhai Wales & West i wella gwasanaethau i’n preswylwyr. Mae yna syniadau tymhorol ar gyfer pethau i’w gwneud gyda’r teulu trwy gydol yr haf sy’n rhad ac am ddim neu am gost isel, yn ogystal â chyngor ac awgrymiadau ariannol.  

⁠Mae’r ⁠rhifyn diweddaraf ar gael nawr i breswylwyr eu darllen a mwynhau ar eu tabledi, ffonau symudol neu liniaduron. ⁠ Mae wedi’i gynllunio i fod yn gwbl hygyrch ac mae’n gweithio orau ar ddyfeisiau symudol.  

Bydd ein rhifyn nesaf yn cael ei argraffu a’i bostio i breswylwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.