Symud i gartref newydd ar ôl diagnosis salwch angheuol ‘yn newid popeth’ i gwpl o Wrecsam
Dywedodd Andrew a Steven Benton y bydd symud i mewn i’w byngalo dwy ystafell wely yn Nhir Coed ‘yn newid popeth.’
Roedd y cwpl ymhlith y cyntaf i dderbyn allweddi i gartref newydd yn ein datblygiad yng Ngwersyllt, Wrecsam.
Maen nhw wedi bod yn breswylwyr i Dai Wales & West ers nifer o flynyddoedd ond fe gawson newyddion erchyll bedair blynedd yn ôl bod gan Andrew diwmor angheuol ar yr ymennydd.
Cafodd strôc a chwympo yn gynharach eleni, tra’n byw yn eu cartref blaenorol, fflat llawr cyntaf.
Nawr bod ganddynt fynediad ar lefel llawr gwaelod a fwy o le bydd ansawdd eu bywyd yn gwella.
Dywedodd Andrew: “Pan wnes i ddarganfod ein bod ni’n symud yma fe wnes i lefain.
“Mae bod yma fel ennill y loteri. Nid ydym wedi cael lwc am y pedair blynedd diwethaf ond mae hynny wedi newid.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr dim ond i allu symud o gwmpas yn annibynnol.”
Mae Steven yn gweithio tri diwrnod yr wythnos ac yn dweud y bydd ganddo dawelwch meddwl yn eu cartref newydd.
“Pan rwy’n gweithio, ni alla i fod yna bob amser ac roedd hyn yn cyfyngu ar yr hyn y gallai Andrew ei wneud. Pan oedden ni yn y fflat ni allai fynd allan.
“Nawr rydyn ni ar y llawr gwaelod ac mae gennym ni ardd a bydd Andrew yn gallu mynd allan heb i mi boeni ei fod yn mynd i gwympo neu faglu ar unrhyw risiau.”
Mae Andrew a Steven wedi bod gyda’i gilydd ers 28 mlynedd ac yn bwriadu dathlu 30 mlynedd gyda’i gilydd gyda seremoni yn Eglwys San Silyn yn Wrecsam yn 2026.
Cyfarfu’r ddau yn Wrecsam ond symudont i ffwrdd ar ôl iddynt ddioddef o gam-drin homoffobig ac ymgartrefu ym Manceinion, lle buont yn byw am 17 mlynedd. Dychwelon nhw i Wrecsam i fod yn agosach at deulu.
“Pan wnes i ddarganfod ein bod ni’n symud yma fe wnes i lefain.”
Andrew Benton, preswylydd yn Nhir Coed, Gwersyllt
“Ni allaf gredu bod y freuddwyd wych hon wedi digwydd,” meddai Andrew.
“Mae’r broses symud wedi bod yn hollol wych, rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan ein swyddog tai.”
Symudodd Alicja a Damian o eiddo arall yng Ngwersyllt i dŷ pâr yn Nhir Coed sy’n fwy addas i’w hanghenion.
“Bydd yn well ym mhob ffordd,” meddai Alicja.
Adeiladwyd Tir Coed ar dir ar hen Fferm Woodlands a chafodd ei gwblhau gan y prif gontractwr Castlemead Group.
Mae’n cynnwys cymysgedd o fyngalos, tai a fflatiau.