Grŵp Tai Wales & West yn rhoi £60,000 i gefnogi elusennau sy’n gweithio gyda phobl anabl
Mae dwy elusen sy’n rhoi llais a dewis i bobl anabl ar draws Cymru wedi rhannu rhodd o £60,000 i helpu i ddatblygu eu gwaith.
Anabledd Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yw’r elusennau a ddewiswyd am 2024 ar gyfer Grŵp Tai Wales & West.
Dros y tair blynedd nesaf bydd pob elusen yn derbyn £10,000 y flwyddyn, cyfanswm o £30,000 yr un, tuag at eu gwaith i hybu cydraddoldeb i bobl anabl.
Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl ac mae’n ymladd dros hawliau, cydraddoldeb a byw’n annibynnol pobl anabl. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn darparu ac yn hyrwyddo gweithgareddau corfforol i bobl anabl.
Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd y Bwrdd yn Nhai Wales & West: “Dros y blynyddoedd rydym wedi cefnogi nifer o elusennau sy’n delio â materion sy’n effeithio ar ein preswylwyr a’n cymunedau.
“Mae anghydraddoldeb sy’n bodoli mewn cymdeithas yn golygu nad yw pawb yn cael yr un cyfleoedd. Fel sefydliad, rydyn ni ar daith i gydnabod a herio anghydraddoldeb a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael yr un cyfleoedd. “
Alex Ashton, Cadeirydd y Bwrdd yn Nhai Wales & West
Eleni roeddem yn awyddus i gefnogi dwy elusen wych sy’n hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru.
Mae Anabledd Cymru yn cael ei redeg gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl. Mae’n credu bod gan bob person anabl yr hawl i gymryd rhan lawn a chael eu cefnogi yn eu cymunedau. Trwy ganolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd gwybodaeth, datblygu a hyfforddiant, mae’n rhoi llais cryf ac arweinyddiaeth i ddylanwadu ar y materion sydd o bwys i’w haelodau.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn credu y dylai fod gan bob person anabl ddewis go iawn o ran ble, pryd a pha mor aml y maent yn actif ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’n gweithio gyda phobl anabl a’r rhai sy’n gweithio ym maes chwaraeon a hamdden i greu mwy o gynhwysiant trwy ei ddigwyddiadau, gweithdai, gweithgareddau ac adnoddau dysgu.
Mae’r ddwy elusen yn gwneud gwaith pwysig i hybu cynhwysiant. Mawr obeithiwn y bydd ein cyfraniad yn caniatáu iddynt wneud gwahaniaeth wrth hyrwyddo hawliau a chydraddoldeb pobl anabl ar draws Cymru.”
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru: “Rydym wrth ein bodd o gael ein dewis gan Dai Wales & West fel un o’i phartneriaid elusennol. Edrychwn ymlaen at adeiladu a chryfhau ein cysylltiadau gyda’r sefydliad a’i chymunedau.
Mae pobl anabl yn cyfrif am dros un rhan o bump o’r boblogaeth ac mae llawer wedi wynebu sialensiau sylweddol oherwydd effaith pandemig Covid-19 ac argyfwng costau byw.
“Bydd y rhodd yn gwella ein gwaith o ddarparu gwybodaeth, cyfleoedd ymgysylltu a chynrychiolaeth fel bod gan bob person anabl yr hawl i gymryd rhan lawn a chael eu cefnogi yn eu cymunedau.”
Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru
Dywedodd Fiona Reid, Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae’r rhodd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Byddwn yn ei ddefnyddio i ymestyn ein gwasanaethau i gysylltu pobl anabl â gweithgaredd ac i gefnogi cyfleoedd nad ydynt efallai yno nawr ond a fyddai’n cael eu gwerthfawrogi’n lleol.
Mae effaith y berthynas gyda Tai Wales & West yn fwy na’r rhodd ariannol.
Er bod y ddarpariaeth o weithgareddau cynhwysol a chwaraeon yn cynyddu, rydym yn gwybod bod angen cryfhau’r ymwybyddiaeth a’r cysylltiadau i gymunedau lleol i’r gweithgaredd hwnnw o hyd.
“Gellir cyflawni hyn, yn rhannol, drwy gyfathrebu â chysylltiadau gwell a gweithio gydag ystod o sefydliadau sydd â pherthynas gyda phobl anabl.
“Mae’r berthynas barhaus gyda staff a phreswylwyr Tai Wales & West yn golygu ein bod yn gallu cael sgyrsiau gwell gyda phobl anabl nad ydynt yn gwybod beth sydd ar gael o ran gweithgareddau corfforol a chwaraeon yn lleol iddynt.”
Fiona Reid, Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru
“Mawr obeithiwn y bydd hyn yn arwain at fwy o gyfleoedd, ymwybyddiaeth a dewis yn y dyfodol.”