Newyddion

18/06/2024

Mae staff GTTW yn dyblu eu cefnogaeth i elusennau Cymreig

Mae staff Grŵp Tai Wales & West wedi gosod yr her iddynt eu hunain i ddyblu eu hymdrechion codi arian i gefnogi dwywaith y nifer o elusennau Cymreig.

⁠Dros y ddwy flynedd nesaf (2024-2026) mae aelodau o staff ar draws Grŵp TWW, sy’n cynnwys Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, wedi dewis cefnogi pedair elusen – Cymdeithas Clefyd Motor Niwron (Cymdeithas CMN), Parlys yr Ymennydd Cymru, Parkinson’s UK Cymru a Cymru Versus Arthritis.⁠⁠

Mae staff eisoes yn cynllunio heriau megis ‘Cerdded Marathon’ noddedig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Abergwaun i Aberteifi. Mae ffyrdd eraill o godi arian yn rheolaidd yn cynnwys loteri staff misol, rafflau rheolaidd a rhoddion uniongyrchol o’u cyflog.

Yn gynharach eleni, cyflwynodd staff GTWW £22,111 yr un i’w helusennau ymadawol Beiciau Gwaed Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru, y mwyaf y maent wedi’i godi mewn dwy flynedd.

“Rwy’n hyderus y bydd ein staff yn ymateb i’r her unwaith eto ac yn meddwl am lawer o ffyrdd o godi arian i wneud gwahaniaeth i’r elusennau pwysig hyn.”  
Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey

“Mae’r elusennau rydym wedi dewis eu cefnogi yn hanfodol i gannoedd o filoedd o bobl a’u teuluoedd sy’n byw gyda’r clefydau a’r cyflyrau y maent yn eu cefnogi. Maen nhw’n cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl, gan gynnwys rhai o’r preswylwyr sy’n byw yn ein cartrefi. Enwebwyd pob un gan aelodau o staff, sydd wedi cael eu profiad personol eu hunain o’r gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud.

“Rwy’n gobeithio ymhen dwy flynedd y byddwn yn gallu cyflwyno swm sylweddol iddynt i’w helpu i barhau â’u cefnogaeth amhrisiadwy a’u gwaith ymchwil.”


Cwrdd â’r elusennau

Cymdeithas CMN yw’r brif elusen yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n canolbwyntio ar wella mynediad at ofal, ymchwil ac ymgyrchu ar gyfer y bobl hynny sy’n byw gyda CMN neu’n cael eu heffeithio ganddo. ⁠Mae Clefyd Motor Niwron (CMN) yn gyflwr niwrolegol angheuol sy’n datblygu’n gyflym ac sy’n effeithio ar fwy na 5,000 o oedolion yn y DU ar unrhyw un adeg. Mae’r clefyd yn achosi negeseuon o’r nerfau (niwronau modur) yn yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn, sy’n rheoli symudiad, i roi’r gorau i gyrraedd y cyhyrau yn raddol, gan eu harwain i wanhau, stiffhau a nychu.  Mae CMN yn lladd traean o bobl o fewn blwyddyn a mwy na hanner o fewn dwy flynedd o ddiagnosis 

Rydym yn falch iawn o fod yn elusen ddewisol i Grŵp Tai Wales & West. Mae Cymdeithas CMN yn cefnogi pobl y mae CMN yn effeithio arnynt yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a dim ond oherwydd haelioni ac ymroddiad y rhai sy’n dewis ein cefnogi ni y mae ein gwaith yn bosibl. Rydym yn gwybod bod CMN yn achos sy’n agos at galonnau staff Tai Wales & West, felly diolch i’r rhai a helpodd i wireddu’r bartneriaeth hon ac ni allwn aros i weld beth y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd.”   
Richard Shackelford, Codwr Arian Rhanbarthol o Gymdeithas CMN
www.mndassociation.org


Mae Parkinson’s UK Cymru yn cefnogi pobl sy’n byw gyda Parkinson’s, cyflwr niwrolegol dirywiol, sy’n effeithio ar tua 153,000 o bobl yn y DU a 7,500 yng Nghymru. Mae prif symptomau clefyd Parkinson’s yn cynnwys ysgwyd anwirfoddol (a elwir hefyd yn gryndod), symudiad sy’n arafach na’r arfer a stiffrwydd yn y cyhyrau. 

Rydym mor ddiolchgar i Dai Wales & West am gefnogi Parkinson’s UK Cymru yn ystod 2024/25. Mae cael cefnogaeth busnesau ledled Cymru yn hanfodol er mwyn caniatáu i Parkinson’s UK Cymru barhau â’r gwaith a wnawn.  

“Gyda mwy na 40 o symptomau posibl, gall clefyd Parkinson’s ddinistrio bywydau. Rydym wedi gwneud datblygiadau enfawr yn y 50 mlynedd diwethaf, ond nid oes iachâd o hyd ac nid yw triniaethau presennol yn ddigon da. 

“Pob lwc i bawb a gobeithiwn y bydd yr heriau a’r digwyddiadau codi arian arfaethedig yn llwyddiant mawr!  Pe bai gweld y gwaith codi arian hwn yn eich ysbrydoli i ennyn diddordeb â Parkinson’s UK Cymru, mae llawer o ffyrdd i chi gymryd rhan a’n cefnogi – o wirfoddoli mewn digwyddiad, i ymgyrchu am wasanaethau gwell. Heb haelioni pobl fel chi, ni fyddai ein gwaith yn bosibl.”  
Keri McKie, Codwr Arian Cymunedol, Cymru. 
parkinsons.org.uk

Mae Parlys yr Ymennydd Cymru yn elusen genedlaethol ac yn ganolfan ragoriaeth sy’n darparu therapi a chymorth arbenigol i blant a theuluoedd ledled Cymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd. Y llynedd, darparodd yr elusen 1,054 o sesiynau therapi i 293 o blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae’r elusen hefyd yn cynnig Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd sy’n rhoi cyngor ymarferol a chymorth emosiynol i’r teuluoedd hynny sydd ei angen. Mae angen i Barlys yr Ymennydd Cymru sicrhau tua £2M o incwm bob blwyddyn i ddarparu ei lefel bresennol o wasanaeth, ac ar gyfartaledd, mae 80% o’r cyfanswm hwn yn cael ei gynhyrchu drwy roddion a gweithgareddau codi arian. 

Rydym yn falch iawn o gael ein dewis fel un o elusennau’r flwyddyn Tai Wales & West.⁠ Fel elusen, rydym yn darparu therapi a chymorth arbenigol i gannoedd o deuluoedd ledled Cymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd, ac rydym wrth ein bodd bod staff Tai Wales & West yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth sy’n newid bywydau drwy godi arian ar ein cyfer dros y ddwy flynedd nesaf. 

“Parlys yr ymennydd yw’r anabledd corfforol mwyaf cyffredin ymhlith plant ledled y byd, ac amcangyfrifir bod babi a fydd â’r cyflwr hyn yn cael ei eni bob pum diwrnod yng Nghymru. Ein cenhadaeth yw gwella ansawdd bywyd holl blant Cymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd, a bydd cefnogaeth y tîm yn Nhai Wales & West yn ein galluogi i fod yno ar gyfer y plant a’r teuluoedd sydd ein hangen.” 

Marie Wood, Cyfarwyddwr Codi Arian & Chyfathrebu: ym Mharlys yr Ymennydd Cymru
www.cerebralpalsycymru.org

Ar hyn o bryd, mae tua 970,000 o bobl yn byw gydag arthritis neu gyflyrau cyhyrysgerbydol yng Nghymru – mae hyn yn cyfateb ag un o bob tri o’r boblogaeth sy’n byw gyda’r boen, y blinder a’r anabledd y gall hwn ei achosi.   Versus Arthritis yw elusen arthritis fwyaf y DU, sy’n gweithio i ddylanwadu ar y llywodraeth ac ar bolisïau, gan ymgyrchu ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl sy’n byw gydag arthritis, buddsoddi mewn gwaith ymchwil arloesol, a hyn oll er mwyn helpu i atal arthritis rhag rheoli neu ddinistrio bywydau pobl. Yng Nghymru, mae Versus Arthritis yn darparu gwybodaeth am iechyd, mae’n cynnal rhaglen o weithgareddau hunan-reoli, grwpiau cymorth lleol a Llinell Gymorth er mwyn galluogi pobl sydd ag arthritis i gadw’n egnïol ac yn annibynnol.   

Yng Nghymru, mae gennym gymaint o bobl sy’n byw gyda’r boen a’r ynysu a achosir gan arthritis.   Mae Versus Arthritis yma, bob cam o’r ffordd, i gynnig y cymorth y mae ei angen ar bobl sydd ag arthritis i fyw bywyd da gyda’u cyflwr.  

“Mae’n anrhydedd i ni gael gweithio gyda Thai Wales & West i gynorthwyo ein gwaith hanfodol yng Nghymru Versus Arthritis.   Mae eich cymorth gwerthfawr chi yn helpu ein gwasanaethau i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sydd ag arthritis, ac mae’n galluogi ein gwaith ymchwil arloesol i anelu at ddyfodol sy’n rhydd rhag arthritis.” 

Mary Cowern, Pennaeth Cymru Versus Arthritis  
www.versusarthritis.org

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.