Newyddion

03/02/2025

Cegin newydd yn dod â chymuned at ei gilydd

Mae pawb wrth eu bodd gyda chegin newydd – yn enwedig y grwpiau sy’n defnyddio neuadd y pentref yn Eglwyswrw, Sir Benfro.   

Fel prif ganolfan gweithgareddau cymdeithasol yn y pentref, mae’n neuadd brysur.  Ond roedd y gegin wedi bod yno ers dros 30 mlynedd ac roedd gwir angen un newydd yno. 

Felly, penderfynodd y pwyllgor gwirfoddol sy’n rheoli’r neuadd droi atom am gymorth.  Defnyddir y neuadd yn rheolaidd gan nifer o grwpiau lleol gan gynnwys yr Ysgol Feithrin, Sefydliad y Merched, y Gymdeithas Dreftadaeth a’r Cyngor Cymuned.  Fe’i defnyddir hefyd er mwyn cynnal digwyddiadau cymunedol a sesiynau gwau a sgwrsio rheolaidd, bingo a boreau coffi.  Felly, roedd codi arian i adnewyddu’r gegin yn bwysig iddynt. 

Gwers goginio i blant lleol yn y gegin newydd yn neuadd Eglwyswrw  

 

Mae’r neuadd drws nesaf i’n datblygiad tai newydd yng Ngolwg Y Llan, felly roeddem yn hapus i noddi’r prosiect er mwyn adnewyddu’r gegin.  Penderfynom droi at ein cyflenwyr ceginau hefyd, sef Symphony, a roddodd gypyrddau newydd. 

Dywedodd Mandy Philips, Cadeirydd Gymdeithas Neuadd Bentref Eglwyswrw: “Roedd ein cegin ni’n hen ffasiwn iawn ac roedd wir angen cael un newydd.

⁠ “Roedd ein cinio Nadolig blynyddol, a fynychwyd gan 70 o bobl, gymaint yn haws i’w baratoi eleni gyda’r cyfleusterau newydd.

⁠”Byddwn nawr yn gallu cynnal digwyddiadau i’r gymuned fel cinio i’r henoed, nosweithiau cyri a chwis a gall hyd yn oed plant yr Ysgol Feithrin cael gwersi coginio.
Mandy Philips, Cadeirydd Gymdeithas Neuadd Bentref Eglwyswrw

⁠“Mae wedi gwneud gwir wahaniaeth.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.