Newyddion

03/03/2025

Adeiladu tai fforddiadwy i bobl Cymru ers 60 mlynedd

Mae eleni yn nodi chwe degawd o adeiladu tai fforddiadwy ar gyfer ein preswylwyr ar draws Cymru ac ni allem fod yn fwy balch. 

Ers i ni gael ein sefydlu yng Nghaerdydd gyda chenhadaeth i ddatblygu 49 fflat cost isel yn Hillside Court, Pen-y-lan, Caerdydd, rydym wedi tyfu i fod yn un o’r darparwyr tai fforddiadwy mwyaf yng Nghymru. 

Heddiw rydym yn rheoli 12,400 o eiddo gan greu cartrefi a chymunedau i fwy na 24,000 o bobl ar draws 13 sir yng Nghymru.  

Agorodd ein cynllun cyntaf ym Mhen-y-lan, Caerdydd ym 1965

 

Rydym wedi tyfu fel sefydliad ac yn cyflogi mwy na 640 o staff ar draws Grŵp Tai Wales & West, sy’n cynnwys Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Ni oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ a’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn safon platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl (IiP), ac yr ydym wedi ei gadw hyd heddiw. 

I ddynodi ein pen-blwydd yn 60 mlwydd oed, rydym yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â phreswylwyr a staff ynghyd i ddathlu.

 

Ein digwyddiadau ar gyfer ein pen-blwydd yn 60 oed

  • Partïon preswylwyr lle rydym yn cynnig y cyfle i’n preswylwyr drefnu eu parti pen-blwydd yn 60 eu hunain gyda grantiau hyd at £250 fesul grŵp er mwyn helpu i ariannu dathliadau i ddod â phobl ynghyd. 
  • Bydd her codi arian 60 am 60, lle byddwn yn gwahodd staff i feddwl am eu her eu hunain yn seiliedig ar y rhif 60 a chodi arian ar gyfer ein helusennau staff, Cymru yn erbyn Arthritis, Clefyd Motor Niwron, Parlys yr Ymennydd Cymru a Parkinson’s UK Cymru. Boed hynny wrth gerdded 60km, gwneud 60 o fyrfreichiau neu bobi 60 pice ar y maen, rydym yn edrych ymlaen at weld heriau unigryw a dyfeisgar i godi llawer o arian.  
  • Cystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd fel busnes gyda thîm o dros 30 o redwyr yn cwmpasu’r cwrs 13.1 milltir i godi arian unwaith eto ar gyfer ein helusennau staff. 

 

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey: “Mae hon yn flwyddyn gyffrous i ni. 

“O’n dechreuad gostyngedig, rydym wedi ymdrechu i ddarparu tai fforddiadwy i gymunedau ar draws Cymru. 

“Ers i ni ddechrau, rydym wedi cyflawni cymaint, ac wedi dilyn ein gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau cymaint o bobl.”
 Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

I ddynodi ein blwyddyn pen-blwydd, rydym wedi cynllunio nifer o ddigwyddiadau a phartïon i ddod â’n staff, preswylwyr a chymunedau ynghyd i rannu ein cyffro. Mawr obeithiwn y bydd cymaint o bobl a phosibl yn ymuno a’r dathliadau wrth i ni edrych ymlaen at y 60 mlynedd nesaf.” 

 

Beth ddigwyddodd yn 1965? 

  • Yng Nghaerdydd, roedd y Beatles yn paratoi i chwarae ei chyngherddau olaf ym Mhrydain yn Theatr y Capitol Caerdydd.
  • Penodwyd Betty Campbell yn bennaeth benywaidd du cyntaf yn Ysgol Gynradd Mount Stuart, Trebiwt, Caerdydd. 
  • Agorwyd yn swyddogol y gwasanaeth fferi ceir gyrru-arno gyntaf rhwng Abergwaun, Cymru a Harbwr Rosslare, Iwerddon.  
  • Cynhaliwyd angladd gwladol Syr Winston Churchill yn Llundain. 
  • Cafodd y terfyn cyflymder cyntaf o 70 milltir yr awr ei dreialu ar ffyrdd a thraffyrdd anghyfyngedig yn y DU, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach ar draws y wlad. 
  • Sefydliadau eraill a sefydlwyd oedd The Landmark Trust a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain. 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.