Ymunwch â’n dathliadau pen-blwydd yn 60
Ymunwch â’n dathliadau pen-blwydd yn 60
Bydd Tai Wales & West yn dathlu ein pen-blwydd yn 60 oed yn 2025. Rydym wedi bod yn darparu cartrefi fforddiadwy i bobl ers cryn amser; o’n cartrefi cyntaf ym Mhenylan, Caerdydd ym 1965, i reoli 12,400 o gartrefi mewn 13 o awdurdodau lleol ar draws Cymru erbyn hyn. Rydym yn dymuno dathlu’r garreg filltir hon wrth i ni edrych ymlaen at y 60 mlynedd nesaf.
Ymgeisiwch am grant ar gyfer eich parti cymunedol
Fel rhan o’r dathliadau, rydym yn cynnig y cyfle i’n preswylwyr drefnu eu parti pen-blwydd 60 eu hunain.
I helpu gyda hyn, rydym yn cynnig grantiau o hyd at £250 fesul grŵp o breswylwyr er mwyn helpu i dalu am luniaeth (di-alcohol), addurniadau, gweithgareddau ac adloniant i ddod â phobl ynghyd ar gyfer eich digwyddiad.
Sut i wneud cais am grant
Os hoffech chi drefnu dathliad yn eich ardal chi, bydd angen i chi gysylltu â’ch Swyddog Datblygu Cymunedol lleol yn gyntaf, a fydd yn gallu dweud wrthych yr hyn y mae angen i chi ei wneud i ymgeisio. Sylwer na fyddwn yn talu am brynu alcohol.
Caerdydd: Claire Ashby, Claire.Ashby@wwha.co.uk, 07581 033796 a Herman Valentin, Herman.Valentin@wwha.co.uk, 07827 279711
Gogledd Cymru: Judith Sellwood, Judith.Sellwood@wwha.co.uk 07866 156923
Pen-y-bont ar Ogwr: Laura Allcott, Laura.Allcott@wwha.co.uk 07929 201313
Gorllewin Cymru: Rhiannon Ling, Rhiannon.Ling@wwha.co.uk 07791 805311
Merthyr Tudful a Powys: Claire Hammond Claire.Hammond@wwha.co.uk 07766 832692