Ynglŷn â Llys Glan Yr Afon, Y Drenewydd
Mae’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mhowys yn cynnig ffordd newydd o fyw bywyd annibynnol, ond gan fanteisio ar ofal ar y safle, 24 awr y dydd.
Adeiladwyd y datblygiad hwn, sy’n cynnwys 48 o fflatiau ac a gostiodd £7.5m, mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys ac fe’i lleolir mewn man prydferth ar lannau Afon Hafren. Y Drenewydd yw’r dref fwyaf ym Mhowys ac mae nifer fawr o siopau, bwytai a chaffis gerllaw, yn ogystal â sinema a theatr.
Cymhwysedd
Er mwyn cael eich hystyried am fflat yn Llys Glan-yr-Afon:
- Rhaid eich bod yn 18+ oed
- Rhaid bod gennych chi angen gofal a chymorth
Rhoddir blaenoriaeth i bobl sy’n byw ym Mhowys yn barod.
Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais
Ffôn: 01686 807860 yn ystod oriau swyddfa, sef 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost: contactus@wwha.co.uk
Nodweddion
- 48 fflat – cymysgedd o gartrefi un a dwy ystafell wely
- Staff gofal ar y safle 24 awr y dydd (Gofal a Chymorth Castell)
- Ystafelloedd cawod y gellir cerdded i mewn iddynt ac sy’n gysylltiedig, a cheginau cyfoes gosodedig (heb gynnwys nwyddau gwynion); mae nifer o’r fflatiau yn cynnwys balconi
- Ystafell ymolchi â chymorth
- Bwyty Orendy, sy’n gweini prydau wedi’u coginio yn ffres bob dydd
- Safleoedd lolfa ac ystafell ar gyfer gwesteion
- Cyfleusterau golchi dillad
- Gerddi wedi’u tirlunio
- Terasau
- Lle storio bygis
- Lle trin gwallt
- Cynhelir gweithgareddau cymunedol rheolaidd ar y safle
Lleoliad
Nid fflat neu dŷ yn unig yw gofal ychwanegol – eich cartref chi ydyw, a bydd gennych eich drws ffrynt eich hun. Trwy symud i un o’n cynlluniau, gallwch gychwyn ar gyfnod newydd yn eich bywyd, gan wybod y gallwch chi fyw bywyd annibynnol yma a bod gofal a chymorth ar gael gan ein tîm cymorth ar y safle pan fydd ei angen arnoch.
Mae pob unigolyn yn wahanol, felly fel preswylydd, bydd y gofal a’r cymorth a ddarparir yn dibynnu ar eich anghenion. Mae cyfle i chi gymdeithasu, cyfarfod pobl newydd a mwynhau dysgu sgiliau newydd hefyd.