A ydych chi’n dymuno symud i gartref mynediad hawdd yng Nghaerdydd?
Nod ein cynllun newydd yng Nghlos Pentland, Llanisien, Caerdydd, a fydd yn costio £10 miliwn, yw creu 82 o gartrefi newydd i bobl y mae gofyn iddynt gael llety mynediad hawdd.
Bydd Clos Pentland yn dwyn cartrefi newydd modern i un o faestrefi preswyl mwyaf poblogaidd Caerdydd, Llanisien. Bydd y rhain ar gyfer pobl dros 55 oed yn bennaf, a’r rhai sydd ag anghenion hygyrchedd, ac fe’u dyluniwyd i greu cymuned agos o fflatiau a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.
Enillodd ein cynllun wobr dylunio yng Ngwobrau Tai Cymru yn ddiweddar.
Mae WWH yn gweithio gyda Chartrefi Hygyrch Caerdydd i greu cartrefi er mwyn bodloni anghenion pobl sydd wedi bod yn aros am gyfnod hir am gartrefi o’r fath. Bydd y cartrefi yn rhai fforddiadwy i’w rhentu ac yn rhai hygyrch i bobl sydd â phroblemau symudedd.
Rydym yn cael cyngor dylunio gan sefydliadau arbenigol gan gynnwys Cymdeithas Alzheimer ac RNIB.
Mae’r cynllun yn cynnwys 16 o fflatiau llawr daear ar ffurf pum bloc, ac mae pob fflat yn cynnwys drysau llydanach ac ystafelloedd gwlyb ynghyd â chegin, lle bwyta ac ystafell fyw agored eang. Bydd lifft sy’n cyrraedd pob llawr hefyd a phwyntiau gwefru a storio sgwteri symudedd ar y llawr daear.
Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn dda a nod y contractwyr, Hale Construction, yw cwblhau’r cynllun yn barod er mwyn i’r preswylwyr cyntaf allu symud i mewn yn gynnar flwyddyn nesaf.
Dywedodd Rheolwr Tai WWH, Chris Walton: “Bydd y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu yng Nghlos Pentland yn rhai modern, cynnes a deniadol i breswylwyr. Mae tua 2000 o bobl dros 50 oed ar restr aros am dai Cyngor Caerdydd ac y maent yn dymuno cael llety hygyrch un ystafell wely.”
“Ar ôl cwblhau’r datblygiad hwn, mawr obeithiwn y bydd yn rhyddhau nifer o gartrefi teuluol cymdeithasol mwy o faint trwy alluogi i bobl sengl a chyplau hŷn sy’n tan-feddiannu cartrefi teuluol mwy o faint ar hyn o bryd, i symud i gartrefi modern newydd a fydd yn diwallu eu hanghenion wrth iddynt fynd yn hŷn.”
Dywedodd Rheolwr Tai WWH, Chris Walton
Bydd y datblygiad o flociau pedwar a phum llawr yn creu cymuned o 82 o fflatiau un a dwy ystafell wely, y byddant yn cynnwys ardaloedd cymdeithasol a balconïau cymunol lle y gall preswylwyr gyfarfod a gwneud ffrindiau. Ceir lleoedd parcio oddi ar y ffordd hefyd.
Mae Llanisien yn faestref boblogaidd yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys cymuned fywiog o siopau, cyfleusterau hamdden, cyfleoedd cyflogaeth a gwasanaethau cymorth. Ceir safle bws a gorsaf Cynigir fflatiau ar y llawr daear I ymgeiswyr ar gofrestr Cartrefi Hygyrch drenau ar y stepen drws, sy’n cynnig cysylltiadau rheolaidd â chanol y ddinas a chymunedau cyfagos, gyda’r nod o annog preswylwyr i ddefnyddio llai o’u ceir.
Caerdydd a bydd y broses o lunio rhestr fer yn cychwyn yn ystod yr haf eleni ar gyfer fflatiau llawr cyntaf ac uwch eu pen. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn symud i Glos Pentland, Llanisien, wneud cais i’r Gofrestr Tai Cyffredin.
Gall preswylwyr Tai Wales & West ofyn am ffurflen gais drosglwyddo i ymuno â’r gofrestr trwy gysylltu â’n Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526.