Adeiladu tai fforddiadwy i bobl Cymru ers 60 mlynedd
Mae eleni yn nodi chwe degawd o adeiladu tai fforddiadwy ar gyfer ein preswylwyr ar draws Cymru ac ni allem fod yn fwy balch.
Ers i ni gael ein sefydlu yng Nghaerdydd gyda chenhadaeth i ddatblygu 49 fflat cost isel yn Hillside Court, Pen-y-lan, Caerdydd, rydym wedi tyfu i fod yn un o’r darparwyr tai fforddiadwy mwyaf yng Nghymru.
Heddiw rydym yn rheoli 12,400 o eiddo gan greu cartrefi a chymunedau i fwy na 24,000 o bobl ar draws 13 sir yng Nghymru.

Agorodd ein cynllun cyntaf ym Mhen-y-lan, Caerdydd ym 1965
Rydym wedi tyfu fel sefydliad ac yn cyflogi mwy na 640 o staff ar draws Grŵp Tai Wales & West, sy’n cynnwys Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Ni oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ a’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn safon platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl (IiP), ac yr ydym wedi ei gadw hyd heddiw.
I ddynodi ein pen-blwydd yn 60 mlwydd oed, rydym yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â phreswylwyr a staff ynghyd i ddathlu.
Ein digwyddiadau ar gyfer ein pen-blwydd yn 60 oed
- Partïon preswylwyr lle rydym yn cynnig y cyfle i’n preswylwyr drefnu eu parti pen-blwydd yn 60 eu hunain gyda grantiau hyd at £250 fesul grŵp er mwyn helpu i ariannu dathliadau i ddod â phobl ynghyd.
- Bydd her codi arian 60 am 60, lle byddwn yn gwahodd staff i feddwl am eu her eu hunain yn seiliedig ar y rhif 60 a chodi arian ar gyfer ein helusennau staff, Cymru yn erbyn Arthritis, Clefyd Motor Niwron, Parlys yr Ymennydd Cymru a Parkinson’s UK Cymru. Boed hynny wrth gerdded 60km, gwneud 60 o fyrfreichiau neu bobi 60 pice ar y maen, rydym yn edrych ymlaen at weld heriau unigryw a dyfeisgar i godi llawer o arian.
- Cystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd fel busnes gyda thîm o dros 30 o redwyr yn cwmpasu’r cwrs 13.1 milltir i godi arian unwaith eto ar gyfer ein helusennau staff.
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey: “Mae hon yn flwyddyn gyffrous i ni.
“O’n dechreuad gostyngedig, rydym wedi ymdrechu i ddarparu tai fforddiadwy i gymunedau ar draws Cymru.
“Ers i ni ddechrau, rydym wedi cyflawni cymaint, ac wedi dilyn ein gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau cymaint o bobl.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West
I ddynodi ein blwyddyn pen-blwydd, rydym wedi cynllunio nifer o ddigwyddiadau a phartïon i ddod â’n staff, preswylwyr a chymunedau ynghyd i rannu ein cyffro. Mawr obeithiwn y bydd cymaint o bobl a phosibl yn ymuno a’r dathliadau wrth i ni edrych ymlaen at y 60 mlynedd nesaf.”
Beth ddigwyddodd yn 1965?
- Yng Nghaerdydd, roedd y Beatles yn paratoi i chwarae ei chyngherddau olaf ym Mhrydain yn Theatr y Capitol Caerdydd.
- Penodwyd Betty Campbell yn bennaeth benywaidd du cyntaf yn Ysgol Gynradd Mount Stuart, Trebiwt, Caerdydd.
- Agorwyd yn swyddogol y gwasanaeth fferi ceir gyrru-arno gyntaf rhwng Abergwaun, Cymru a Harbwr Rosslare, Iwerddon.
- Cynhaliwyd angladd gwladol Syr Winston Churchill yn Llundain.
- Cafodd y terfyn cyflymder cyntaf o 70 milltir yr awr ei dreialu ar ffyrdd a thraffyrdd anghyfyngedig yn y DU, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach ar draws y wlad.
- Sefydliadau eraill a sefydlwyd oedd The Landmark Trust a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain.