Annog preswylwyr i ailgylchu gwastraff bwyd
Anogir preswylwyr ar draws Cymru i wneud eu rhan wrth helpu i leihau swm y gwastraff bwyd sy’n cael ei daflu i ffwrdd gan aelwydydd y DU bob blwyddyn, yr amcangyfrifir ei fod yn 6.6 miliwn tunnell.
Cyn yr Wythnos Ailgylchu Genedlaethol, bu Cyngor Sir y Fflint yn ymweld â bore coffi yng Nghwrt Neuadd Sydney Tai Wales & West yng Nghei Connah i gynnig adnoddau a chyngor ynghylch ailgylchu gwastraff bwyd.
Yn ogystal â chael y cyfle i gasglu eitemau fel cadis cegin newydd a bagiau ailgylchu bwyd, bu’r sawl a fynychodd yn cymryd rhan mewn cwis i ddarganfod rhai ffeithiau am wastraff bwyd.
“Gellir creu cymaint o ynni o wastraff bwyd a dyma beth sy’n digwydd yn Sir y Fflint, wrth i’r gwastraff y byddwn yn ei gasglu gan aelwydydd gael ei anfon i safle prosesu bwyd er mwyn creu ynni adnewyddadwy.”
Michelle Shaw, Cyngor Sir y Fflint
Credir y gallai bod bron i dri chwarter y bwyd a gaiff ei daflu i ffwrdd fod wedi cael ei fwyta. Arweiniwyd y sesiwn gan Michelle Shaw o dîm ailgylchu gwastraff Cyngor Sir y Fflint.
“Gwastraff bwyd yw un o’r problemau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, nid yn unig yn Sir y Fflint ond ar draws y wlad,” dywedodd. “Credir y gwaredir 30 y cant o wastraff bwyd mewn bagiau du gydag eitemau eraill na ellir eu hailgylchu.
“Mae hyn yn creu problemau gydag arogleuon ac wrth ddenu fermin gan mai bob pythefnos y cesglir y bagiau, ond hefyd, rydym yn colli’r manteision gwych sy’n dod o ailgylchu bwyd.
“Gellir creu cymaint o ynni o wastraff bwyd a dyma beth sy’n digwydd yn Sir y Fflint, wrth i’r gwastraff y byddwn yn ei gasglu gan aelwydydd gael ei anfon i safle prosesu bwyd er mwyn creu ynni adnewyddadwy.”
Cynhelir yr Wythnos Ailgylchu Genedlaethol rhwng 16 a 22 Hydref 2023 a’r thema eleni yw Yr Helfa Ailgylchu Fawr.
Mae’r Wythnos Ailgylchu yn galw ar blant 5 i 11 oed i arwain y ffordd wrth ddiogelu ein planed. Gydag wythnos yn llawn gweithgareddau hwyliog, mae’r ymgyrch yn dymuno grymuso’r bobl ifanc i fod yn gyfranogwyr gweithgar wrth greu dyfodol cynaliadwy.
Nod yr helfa genedlaethol yw ymgysylltu â phlant a theuluoedd a’u hannog i chwilio am ‘ddeunydd ailgylchu coll’ sy’n aml yn cael ei daflu i’r bin sbwriel. Trwy ganolbwyntio ar eitemau cyffredin fel caniau erosol gwag, poteli cynhyrchion glanhau plastig, poteli pethau ymolchi, potiau a thybiau plastig, a thuniau bwyd, mae Recycle Now yn dymuno meithrin dealltwriaeth ddofn o ailgylchu ymhlith y genhedlaeth iau.
“Trefnir yr Wythnos Ailgylchu gan WRAP, Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau, sef grŵp gweithredu yr hinsawdd sy’n ceisio mynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd o gwmpas y byd.
Dywedodd Harriet Lamb, Prif Swyddog Gweithredol WRAP: “Mae pwysigrwydd y fenter hon yn ymestyn y tu hwnt i’r Wythnos Ailgylchu. Trwy rymuso plant gyda’r wybodaeth a’r offerynnau i fod yn eiriolwyr ailgylchu, nid yn unig yr ydym yn meithrin y dyfodol ond hefyd, rydym yn sicrhau byd iachach a mwy cynaliadwy i ni gyd. Ymunwch â ni i ddathlu’r Wythnos Ailgylchu a grymuso cenhedlaeth nesaf yr hyrwyddwyr amgylcheddol!”
I gael gwybod mwy am Wythnos Ailgylchu 2023, trowch at https://www.recyclenow.com/news-and-campaigns/recycle-week#Recycle-Week-2023
Mae gwybodaeth bellach am ailgylchu yng Nghymru ar gael gan Cymru yn Ailgylchu: https://www.walesrecycles.org.uk/