Bwrdd WWH yn dewis cefnogi Gofalwyr Cymru
Bydd rhodd o £30,000 i Ofalwyr Cymru yn helpu i ofalu am y cannoedd ar filoedd o ofalwyr yng Nghymru.
Bydd yr elusen, sy’n ceisio gwella bywyd y cannoedd ar filoedd o ofalwyr yng Nghymru, yn cael £10,000 y flwyddyn am dair blynedd gan Fwrdd Grŵp Tai Wales & West.
Mae’n un o blith dwy elusen a gefnogir gan Fwrdd y darparwr tai yn y fath ffordd yn ystod 2022. Bydd yn cefnogi gwasanaeth ‘Cyfaill mewn Angen’ Age Cymru hefyd, sy’n cynnig galwadau cyfeillgarwch yn rhad ac am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru sy’n 70 oed neu’n hŷn.
Mae Gofalwyr Cymru yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth arbenigol i ofalwyr, gan gysylltu â nhw a’u cynorthwyo trwy gyfrwng amrediad o weithgareddau a gwasanaethau. Yn ddiweddar, lansiodd yr elusen ei hyb Materion Ariannol, i gynnig cyngor a chymorth ariannol er mwyn ymateb i bryderon a gofid gofalwyr ynghylch effaith yr argyfwng costau byw.
“Bydd y rhodd hon gan Grŵp Tai Wales & West yn cael effaith arwyddocaol ar ein gallu i gyrraedd gofalwyr di-dâl. Gall gofalwyr ddod o unrhyw gefndir mewn bywyd, ond er hyn, mae nifer ohonynt yn anymwybodol o’r help a’r cymorth sydd ar gael i’w helpu yn eu rôl gofalu.”
Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru
“Mae’n hanfodol bod gofalwyr yn gallu manteisio ar gymorth er mwyn eu helpu i gynnal eu cyfrifoldebau gofalu, ac mae hyn yn arbennig o hanfodol o ystyried y cyfraniad enfawr y mae gofalwyr wedi’i wneud wrth gynorthwyo ffrindiau a theulu agored i niwed yn ystod y pandemig, a’r sialensiau parhaus ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y rhodd hael hon yn cael ei defnyddio i wella ein gwasanaeth allgymorth sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor, fel y gall gofalwyr gael yr help a’r cymorth y mae ei angen arnynt yn fawr.”
Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Tai Wales & West: “Mae gofalu yn rhan bwysig o fywyd. Mae’n rhywbeth yr ydym yn ei wneud fel pobl. Yng Nghymru, ceir cannoedd ar filoedd o bobl sy’n darparu gofal di-dâl i ffrindiau, teulu a chymdogion. Mae Gofalwyr Cymru yn gofalu am y bobl hynny.
“I rai, efallai ei fod yn golygu’r cysur a gânt pan fydd rhywun sy’n deall yn gwrando arnynt, i eraill, efallai y bydd yn golygu manteisio ar y cyfle i ymuno ag ychydig “Amser i Fi” a rhannu profiadau a gweithgareddau lles gyda gofalwyr eraill. Mae Gofalwyr Cymru yno i bob gofalwr.
“Roeddwn wrth fy modd o gael y cyfle i gyfarfod rhai o’r gofalwyr a chlywed ganddyn nhw yn uniongyrchol am y gwahaniaeth y mae’r elusen yn ei wneud.
Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Tai Wales & West
“Mawr obeithiwn y bydd ein cyfraniad yn galluogi’r elusen i dyfu ei gwasanaethau a helpu i ofalu am ragor o ofalwyr.” I gael gwybod mwy am waith Gofalwyr Cymru, trowch at www.carersuk.org/wales