Camau er mwyn rheoli eich sefyllfa ariannol
Gan ganolbwyntio ar gyllid personol, mae Lucy Beavan, Swyddog Cymorth Tenantiaeth Tai Wales & West, wedi paratoi ychydig gyngor defnyddiol ynghylch sut y gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich incwm a rheoli eich sefyllfa ariannol.
Rhestrwch eich incwm a’ch holl alldaliadau hanfodol.Yna, cyflwynwch wariant nad yw’n hanfodol mewn trefn yn ôl blaenoriaeth.
Beth yw eich biliau sy’n cael blaenoriaeth?
Dylid ystyried mai’r rhai pwysicaf yw talu eich rhent, eich treth gyngor, eich bil nwy, trydan, dŵr a bwyd. Mae pethau y gallwch chi eu gwneud er mwyn ei gwneud yn haws i chi ymdopi â’r alldaliadau.
Cofiwch, os na fyddwch yn talu rhent, y gallech chi golli eich cartref. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, siaradwch â’ch Swyddog Tai ynghylch rheoli taliadau cyn mynd i ddyled.
Os oes modd, neilltuwch arian ar gyfer costau unigol
Gallai hyn fod am bethau fel trwsio car, offer newydd i’r cartref neu ddisodli dillad neu esgidiau.
A ydych chi’n gallu cael gostyngiad i’ch Treth Gyngor?
I wirio a ydych chi’n gymwys i fanteisio ar ostyngiad, trowch at gwefan y Llywodraeth
Gwybod yr hyn yr ydych yn gymwys i’w gael
Gall ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth helpu. Byddwch yn ymwybodol o sefyllfaoedd y gallent achosi newid o ran swm y budd-daliadau yr ydych chi’n eu cael. Os nad ydych yn hawlio unrhyw fudd-daliadau, gallwch edrych i weld a ydych chi’n gymwys trwy ddefnyddio’r cyfleuster cyfrifo budd-daliadau ar turn2us
Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol (CC) …
Dylech gyllidebu yn ofalus
Os ydych chi’n gweithio ac wedi cael cyflog uwch, er enghraifft os byddwch wedi gwneud gwaith goramser, gallai eich incwm gan CC ostwng. Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyflog i dalu’r diffyg. Gallwch ddefnyddio cyfleuster cyfrifo budd-daliadau ar-lein i weld a fydd eich cyflog yn effeithio ar eich taliad CC.
Gwiriwch i weld a oes unrhyw ddidyniadau yn cael eu gwneud o’ch taliad CC
Os byddwch yn gweld unrhyw beth nad oeddech yn disgwyl ei weld, cysylltwch â llinell gymorth rheoli dyled CC ar 0800 016 0647.
Os ydych chi’n sengl ac os byddwch yn cyrraedd oedran pensiwn, bydd eich taliadau CC yn stopio
- Bydd angen i chi wneud hawliad newydd am Bensiwn y Wladwriaeth gan na fydd yn cael ei dalu’n awtomatig pan fyddwch yn cyrraedd oedran pensiwn.
- Os ydych chi’n hawlydd CC ar y cyd a dim ond un ohonoch sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd eich taliadau CC yn stopio, ond byddant yn lleihau oherwydd y taliadau Pensiwn y Wladwriaeth a geir.
Sicrhewch bod eich gwybodaeth Credyd Cynhwysol (CC) yn cynrychioli’r sefyllfa ddiweddaraf
Er enghraifft, ar ôl i berthynas chwalu gyda phartner neu gymar yr oeddech yn byw gyda nhw, byddai angen i chi ddiweddaru’r holl fanylion sy’n berthnasol i’ch hawliad. Os yw cyn bartner yn byw ar yr un aelwyd, byddai angen eu hychwanegu i’ch hawliad fel “unigolyn heb fod yn ddibynnol”, yn ogystal ag unrhyw unigolyn arall dros 18 oed sy’n byw ar yr aelwyd, ac nad ydynt mewn addysg amser llawn.
Peidiwch â chymryd y bydd gan CC yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnynt o’ch hawliad blaenorol ar y cyd. Gallai hyn arwain at sefyllfa lle y byddwch yn colli taliad y dylech fod yn gymwys i’w gael. “Mae wastad help ar gael i unrhyw un sy’n cael anhawster gyda’u sefyllfa ariannol,” meddai Lucy.
“Efallai y bydd ad-dalu dyledion a sicrhau rheolaeth o’ch sefyllfa ariannol yn gofyn i chi newid eich arferion gwario – ond mae’r manteision o ran eich iechyd meddwl a’ch lles corfforol ac ariannol yn ei wneud yn werth chweil!
“Hyd yn oed os byddwch yn teimlo bod eich dyled yn gwaethygu ac na allwch weld ffordd allan, dylech geisio cyngor. Gallwch gysylltu â’ch Swyddog Cymorth Tenantiaeth trwy ffonio ein Tîm Cymorth Tenantiaeth ar 0800 052 2526.
Dolenni defnyddiol