Newyddion

09/10/2024

Datblygiad tai Sir Gaerfyrddin yn cael ei agor yn swyddogol

Mae ein datblygiad tai cyntaf yn nhref Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, Maes yr Hufenfa, wedi’i agor yn swyddogol gan y Cyng. Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Dai ar gyfer Cyngor Sir Gâr. ⁠ 

Wedi’i henwi ar ôl hen ffatri menyn a hufenfa, a arferai sefyll ar y safle, mae ein datblygiad £8.9 miliwn yn darparu cartrefi i dros 100 o breswylwyr gan gynnwys tua 40 o blant.   

Ymunodd y Cyng. Linda Evans a’n Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey a Chadeirydd y Grŵp, Alex Ashton, wrth iddi dorri rhuban i agor Maes Yr Hufenfa yn swyddogol.  ⁠ 

Ymunodd y cynghorwyr sir leol Philip Hughes a Carys Jones, Maer Sanclêr Annalyn Davies, a’r Dirprwy Faer  Owain Grant, staff ac aelodau Bwrdd yn Tai Wales & West a’u phartneriaid o Jones Brothers (Henllan) Ltd. ⁠  

Yn dilyn torri’r rhuban, ymwelodd y gwesteion â dau o’r teuluoedd a symudodd i mewn yn yr haf. 

Un ohonynt oedd Catherine Jones, a symudodd o dŷ cyngor tair ystafell wely yn Sanclêr i’w chartref dwy ystafell wely newydd ym Maes yr Hufenfa, ac mae’n ei rannu gyda’i mab sy’n oedolyn. ⁠ 

Dywedodd hi: “Mae’r tŷ yn ddelfrydol i mi a’m mab. Mae wedi’i adeiladu’n braf, yn gynnes ac yn economaidd i’w redeg. Mae’n stryd hyfryd ac mae pawb yma yn gyfeillgar.” 

Yn ystod yr agoriad swyddogol dywedodd y Cyng. Linda Evans:  ⁠ “Mae’r galw am dai heddiw ar ei uchaf erioed. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dros 9,300 o gartrefi ac mae’n adeiladu cartrefi newydd, ond i ymateb i’r angen rydym yn ddiolchgar i gymdeithasau tai fel Tai Wales & West am eu hymrwymiad i weithio gyda ni.” 

“Mae Maes Yr Hufenfa yn enghraifft berffaith o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio er mwyn bodloni anghenion pobl leol a theuluoedd sydd angen cartrefi. Mawr obeithiwn y bydd y preswylwyr yn hapus yn eu cartrefi newydd am flynyddoedd i ddod.” 
Cyng Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Dai ar gyfer Cyngor Sir Gâr

Ychwanegodd Alex Ashton, Cadeirydd ein Bwrdd GTWW: “Roedd yn bleser gennym groesawu’r Cyng. Linda Evans i weinyddu yn agoriad swyddogol Maes Yr Hufenfa.” ⁠ 

“Rydym yn falch o’r cartrefi rydym wedi’u hadeiladu yn Sanclêr. ⁠ Mae cael ein croesawu gan breswylwyr a chlywed sut mae’r technolegau effeithlonrwydd ynni rydym yn eu cynnwys yn ein cartrefi yn eu gwneud yn fwy cyfforddus a fforddiadwy i’w rhedeg, yn gwneud byd o wahaniaeth.” 

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Cyngor Sir i adeiladu mwy o gartrefi a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y dyfodol.” 
Alex Ashton, Cadeirydd y Grŵp Tai Wales & West Housing Group

“Mae Tai Wales & West yn berchen ar fwy na 200 o dai fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Cyngor Sir i adeiladu mwy o gartrefi a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai parhaus.”  

Mae’r cartrefi ym Maes yr Hufenfa wedi’u hadeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru. Cymerodd y gwaith o adeiladu Maes yr Hufenfa ddwy flynedd a chafodd ei wneud gan y contractwr arweiniol Jones Brothers (Henllan) Ltd. Mae pob cartref wedi’i adeiladu i’r radd EPC uchaf A ac wedi’u gosod gyda phympiau gwres ffynhonnell aer ar gyfer gwresogi a dŵr poeth a phaneli PV (Ffotofoltäig) i gynhyrchu trydan ar gyfer y cartrefi. 

Manteision i’r gymuned leol 

Yn ogystal â darparu cartrefi i bobl leol ar restrau aros tai Cyngor Sir Caerfyrddin, creodd y datblygiad 25 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu ac mae wedi cefnogi nifer o brosiectau cymunedol. ⁠ ⁠Roedd y rhain yn cynnwys prosiectau gyda disgyblion cyfagos o Ysgol Griffith Jones a’r 2il Grŵp Sgowtiaid Sanclêr.

Hefyd darparom nawdd ar gyfer Carnifal Sanclêr a chit newydd ar gyfer Clwb Pêl-droed St. Clears AFT trwy ein cronfa Gwneud Gwahaniaeth.  ⁠ ⁠ 

Fel etifeddiaeth barhaol, rydym hefyd yn gweithio gyda Chyngor Tref Sanclêr i greu coetir cymunedol ar safle dwy erw y tu ôl i’r cartrefi y gall myfyrwyr Ysgol Griffith Jones a grwpiau cymunedol eraill ei ddefnyddio. ⁠ 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.