Cartrefi newydd ar safle Lidl yng Nghaerfyrddin
Disgwylir i’r gwaith o adeiladu cartrefi newydd ar safle hen siop Lidl yng nghanol tref Caerfyrddin gychwyn yn nes ymlaen yn ystod y gwanwyn eleni.
Ym mis Rhagfyr, cymeradwyodd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr ein cynlluniau i ddymchwel hen archfarchnad Lidl yn Stryd y Priordy a’i disodli gyda 48 o fflatiau ar gyfer pobl dros 55 oed
Dyluniwyd y fflatiau un ystafell wely mewn pedwar bloc dau i dri llawr, gyda gardd gymunol amryw lefel ar ffurf cwrt mewnol yn y canol a lle parcio i breswylwyr. Bydd gan bob fflat ei fynediad ei hun ar ffurf decin a golygfeydd o’r ardd.
Nid yw’r safle, sydd yn ardal gadwraeth y dref, wedi cael ei ddefnyddio ers i’r archfarchnad symud i Barc y Brodyr yng Nghaerfyrddin yn 2019.
Y cam nesaf fydd dymchwel adeilad yr hen archfarchnad, a dilynir hyn gan gloddiad archeolegol.
Byddwn yn cyflogi archeolegwyr i gloddio a chofnodi olion waliau sy’n dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod ôl-ganoloesol, a ddadorchuddiwyd yn ystod yr ymchwiliadau cychwynnol o’r safle.
Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol i Dai Wales & West: “Rydym yn teimlo’n gyffrous i sicrhau bod y safle hwn yng nghanol y dref yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, gan greu cartrefi i bobl leol. Ceir galw am gartrefi modern ac o ansawdd da i bobl hŷn, sy’n fforddiadwy i’w rhentu a’u gwresogi.
“Mae hon yn rhan hanesyddol o’r dref. Mae Ysbyty Caerfyrddin ac Eglwys San Pedr yn adeiladau rhestredig ac yn agos i’r safle, felly rydym wedi gweithio gyda chynllunwyr Sir Gaerfyrddin i ddylunio cynllun sy’n cyd-fynd â’r ardal.”
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid adeiladu hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd ar y prosiect.
Adeiladir y cartrefi i fodloni’r radd effeithlonrwydd ynni uchaf sef EPC A. Gosodir pympiau gwres ffynhonnell aer ynddynt i wresogi’r dŵr, a phaneli PV solar (ffotofoltäig) ar y to er mwyn helpu i bweru’r system wresogi drydan. Gosodir systemau adfer gwres ac awyru mecanyddol (MVHR) hefyd er mwyn cymryd hen aer, arogleuon a lleithder allan a dwyn aer glân a ffres i mewn ac ailgylchu aer llaith cynnes.
Cawsant eu dylunio hefyd i greu tai arloesol ac o ansawdd i breswylwyr hŷn, fel y nodir mewn adroddiad Seneddol ynghylch Panel Arloesi Cartrefu ein Poblogaeth sy’n Heneiddio (HAPPI).
Fel rhan o’r cynllun, byddwn yn gwneud gwaith amgylcheddol i ddenu a chynnal bywyd gwyllt hefyd.
Bydd y rhain yn cynnwys:
- ardaloedd lle y byddwn yn plannu blodau gwyllt i ddenu pryfed a choed a llwyni brodorol.
- bocsys adar er mwyn denu gwenoliaid, gwenoliaid duon, adar y to ac adar eraill
- briciau neu focsys clwydo ystlumod
- llwybrau draenogod