Cymunedau ar draws Cymru yn mwynhau gweithgareddau’r Pasg
Cychwynnodd gwyliau’r Pasg gydag amserlen brysur o weithgareddau teuluol y Gwanwyn a’r Haf i breswylwyr Tai Wales & West ledled Cymru.
Gyda thywydd cynhesach, nosweithiau ysgafnach a seibiant o bythefnos i lawer, roedd digon o weithgareddau i gymunedau yng Ngogledd, De a Gorllewin Cymru gymryd rhan ynddynt.
Daeth preswylwyr ein hystâd yng Ngolwg y Castell ac ystâd Barcud, Awel yr Afon yn Aberteifi allan i’r glaw i chwilio am 20 cliw yn eu Helfa Drysor Pasg ym Mhentop.
Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd â Ysgol Gynradd Aberteifi Community Partnership.
Dywedodd Rhiannon Ling, Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Thai Wales & West: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’r preswylwyr i gynllunio digwyddiadau pellach yn ystod gwyliau’r ysgol.
“Mae’r rhain yn bwysig iawn i’r teuluoedd sy’n byw yma gan ei fod yn rhoi rhywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato ac yn helpu i greu ymdeimlad o ysbryd cymunedol.
“Rydym wedi cael rhai syniadau gwych ac edrychwn ymlaen at gefnogi’r preswylwyr i’w cyflawni eleni.”
Yng Ngogledd Cymru, cynhaliwyd digwyddiad Glanhau’r Gwanwyn ym Mwcle gyda chefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus, Cadwch Sir y Fflint yn Daclus, Cyngor Sir y Fflint a chynghorwyr lleol.
Cafodd nifer o eitemau, gan gynnwys sbwriel, beiciau a throli siopa, eu clirio o ardal o goetir drws nesaf i Powell Road yn nhref Sir y Fflint.
Mwynhaodd teuluoedd yn Wrecsam ddigwyddiad ar thema natur yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, a redir gan Groundwork Gogledd Cymru.
Wedi’u cynllunio i annog ymwybyddiaeth o’r amgylchedd o’n cwmpas, roedd y gweithgareddau’n cynnwys lliwio, gemau bwrdd, cwisiau a chreu collage pili-pala – addurno amlinelliad o löyn byw gan ddefnyddio dail a gasglwyd o’r tu allan.
Dywedodd Ginny Davis, o Groundwork Cymru: “Mae ein gweithgareddau i gyd yn ymwneud â chynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol, wedi’u cynllunio i ymgysylltu â phlant a theuluoedd yn y byd y tu allan.
“Mae’r buddion yn enfawr. Mae’n hybu hyder plant a’u gallu i gyfathrebu, eu sgiliau echddygol a’u sgiliau cymdeithasol, ac yn annog cysylltiad teuluol, cyfle i wneud pethau gwahanol gyda’u rhieni.
“Ar ôl Covid, mae cymaint o blant mor isel mewn hyder, mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud wir yn ceisio goresgyn hyn a magu eu hyder eto.”
Daeth gweithdai drymio Tanio â phlant a’u rhieni at ei gilydd yn Niwrnod Hwyl Pasg Bracla ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Trefnwyd y digwyddiad gan ein partneriaid Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd yn cynnwys gweithdai crefft.
Dywedodd Laura Allcott, Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Thai Wales & West ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig i ddod â’r gymuned a’n partneriaid at ei gilydd i roi rhywbeth i bobl ifanc ei wneud yn ystod y gwyliau.”