Cynllun Gofal Ychwanegol Penarth i ddechrau yn yr haf
Disgwylir i’r gwaith ddechrau’r haf hwn ar gynllun gofal ychwanegol newydd Tai Wales & West ar gyfer pobl hŷn ym Mhenarth.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg i gyflawni’r prosiect gwerth £20 miliwn ar safle 3.6 erw ger Myrtle Close, Penarth.
Bydd y cynllun yn cynnwys 70 o fflatiau hunangynhwysol fforddiadwy, gyda gofal a chymorth wedi’i deilwra ar y safle, ar gyfer bobl sydd am fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned ofalgar, gefnogol.
Yn ddiweddar, mae TWW wedi arwyddo prydles hirdymor ar dir wrth y Cyngor, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer cam nesaf o’r datblygiad.
Rydym bellach wedi penodi contractwr o Gymru, JG Hale Group, sydd wedi dechrau gwaith galluogi ar y safle gyda’r prif waith adeiladu yn dechrau ym mis Mehefin. Disgwylir ei gwblhau yn 2026.
Wedi’u hadeiladu dros dri llawr, mae’r fflatiau ynni effeithlon wedi’u cynllunio gyda lefelau uchel o inswleiddio a fydd yn helpu i gadw biliau ynni yn fforddiadwy i breswylwyr. Bydd gan yr holl fflatiau eu balconïau eu hunain a mynediad i gwrt canolog a gardd sy’n addas i breswylwyr a dementia.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys bwyty ar y safle a lolfeydd cymunol a golchdy.
Bydd paneli solar yn cyd-fynd â’r adeilad i gynhyrchu pŵer ar gyfer yr ardaloedd cymunol a lleihau ei ôl troed carbon.
Mae’n cael ei adeiladu ochr yn ochr â Oak Court, ein cynllun tai presennol i bobl hŷn, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal sy’n deall dementia a weithredir gan y Cyngor. Hwn fydd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Ne Cymru a’n chweched ar draws Cymru gydag eraill yn Aberystwyth, Treffynnon, Prestatyn, Yr Wyddgrug a’r Drenewydd.
Dywedodd Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West, Jon Harvey: “Mae hwn yn brosiect cyffrous a mawr ei angen ar gyfer yr ardal leol, ac rydym yn falch i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru a JG Hale Group i ddod â’r cynllun gofal ychwanegol hwn i Benarth.
“Gyda phroffil poblogaeth sy’n heneiddio, mae galw sylweddol yn yr ardal am gartrefi modern fforddiadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau gofal er mwyn bodloni anghenion pobl hŷn yn yr ardal.”
Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Tai Wales & West, Jon Harvey
“Bydd ein cynllun yn rhoi’r rhyddid i breswylwyr fyw’n annibynnol yn eu fflat eu hunain ond gyda thawelwch meddwl o wybod eu bod yn byw yn rhywle diogel gyda gwasanaeth ymateb brys 24 awr.
Wedi’i ariannu’n rhannol gan y Gronfa Tai â Gofal a Grant Tai Cymdeithasol wrth Lywodraeth Cymru, cynllun Gofal Ychwanegol Penarth yw’r cam diweddaraf ym mhrosiect mwy o faint i integreiddio cartrefi pobl hŷn newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes gyda chyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol yn y lleoliad.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rwy’n falch iawn bod trefniadau prydlesu ar gyfer y tir hwn wedi’u cwblhau a gall gwaith ar yr adeilad newydd cyffrous hwn ddechrau.
“Bydd yn darparu llety fforddiadwy mawr ei angen i bobl hŷn ym Mhenarth ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol gan sefydliadau’r sector cyhoeddus.”
Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg
“Ymhen amser, rydym yn gobeithio y gellir ychwanegu elfennau eraill at y cynllun er mwyn darparu cefnogaeth gynhwysfawr i’w chymuned o breswylwyr.
“Datgelodd ein ‘Arolwg Bywyd yn y Fro’ diweddar mai dwy brif flaenoriaeth i breswylwyr yw: gofal hawdd ei gyrraedd a gwasanaethau gofal iechyd a gallu prynu neu rentu cartref o ansawdd da. Gwyddom hefyd bod y ddau yn bryderon i bobl hŷn.
“Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar adborth o’r fath ac mae datblygiadau fel hyn yn gam sylweddol wrth helpu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.”
Ar dir cyfagos, mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu adeiladu datblygiad byw’n annibynnol i bobl hŷn o tua 32 o gartrefi fforddiadwy.