Datgelu enw cynllun gofal ychwanegol Treffynnon
Plas yr Ywen fydd enw cynllun gofal ychwanegol newydd yn Nhreffynnon, sydd wedi costio £8.5m.
Mae enw’r cynllun sy’n cynnwys 55 o fflatiau yn deillio o goeden Ywen a ddiogelwyd ar hen safle Ysgol Perth y Terfyn yn Ffordd Halkyn.
Mae Tai Wales & West yn darparu’r cyfleuster newydd mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint ac Anwyl Construction, a disgwylir i’r preswylwyr cyntaf symud i mewn yn gynnar yn 2020.
“Bydd Plas yr Ywen yn cynnig cyfleusterau gwych er mwyn gneud gwahaniaeth go iawn i fywydau preswylwyr.”
Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol
Datgelwyd yr enw newydd ar y safle wrth i aelodau o Gyngor Sir y Fflint ymweld i archwilio cynnydd y gwaith.
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rydym wrth ein bodd i weld pa mor gyflym y mae’r gwaith wedi dod yn ei flaen ar y cynllun, ac rydym eisoes yn teimlo’n gyffrous i weld y preswylwyr cyntaf yn symud i mewn yn gynnar y flwyddyn nesaf.
“Rydym yr un mor falch o’r ffaith y bydd y datblygiad pwysig newydd hwn i Sir y Fflint yn cynnig budd i economi Gogledd Cymru, gan mai Anwyl Construction yw’r contractwyr arweiniol.
“Bydd nifer y lleoedd byw gofal ychwanegol a ddarparir gan Dai Wales & West yn y sir yn dyblu bron pan fydd Plas yr Ywen yn agor, gan helpu i fodloni’r galw cynyddol am y math hwn o lety yn y sir.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd Christine Jones: “Mae hwn yn gam ymlaen mawr arall ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf yn Sir y Fflint.
“Gyda’r Cyngor a Thai Wales & West yn gweithio mewn partneriaeth, rydym oll yn edrych ymlaen i weld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd Plas yr Ywen yn cynnig cyfleusterau gwych er mwyn gneud gwahaniaeth go iawn i fywydau preswylwyr.”
Bydd yr adeilad pedwar llawr o fflatiau yn cynnwys 43 o fflatiau un ystafell wely a 12 o fflatiau dwy ystafell wely, ynghyd ag amrediad o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr y dydd ar y safle i bobl 50 oed ac yn hŷn sydd ag anghenion cymorth.
Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu ar y cynllun ym mis Gorffennaf, ar ôl dymchwel hen Ysgol Perth y Terfyn.
Bu Anwyl Construction yn defnyddio offer symudol ar y safle i falu ac ailgylchu’r brics, y seiliau caled a’r concrid o’r ysgol, gan sicrhau defnydd cynaliadwy o’r deunyddiau gwastraff hyn.
Dywedodd Tom Anwyl, Cyfarwyddwr Rheoli Isadran Adeiladu Grŵp Anwyl: “Rydym wrth ein bodd o gael gweithio mewn partneriaeth â Thai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint unwaith eto ar gynllun Plas yr Ywen, gan adfywio hen safle ysgol yn Nhreffynnon.
“Rydym wedi amcanu y bydd y gwaith yn creu 8 o gyfleoedd prentisiaeth newydd, ac mae 1 prentis newydd ac 1 hyfforddai wedi cael eu recriwtio yn barod yn ystod y cyfnod cynnar hwn, law yn llaw â’r ffaith y cynigir nifer yn fwy o leoliadau profiad gwaith a chyfleoedd hyfforddiant i bobl yn yr ardal leol.
“Mae hyn oll yn rhan o’n hymrwymiad i gau’r bwlch sgiliau ym maes adeiladu a gwella pob cymuned y byddwn yn gweithio ynddi.”
Cynhelir diwrnod agored er mwyn galluogi’r cyhoedd i gael gwybod mwy am Blas yr Ywen yn Nhreffynnon ar ddydd Mawrth 9 Ebrill, y lleoliad i’w gadarnhau.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526.