Disgyblion lleol yn Sir y Fflint yn dewis enw stryd newydd
Mae disgyblion mewn ysgol yn y Fflint wedi bod yn ystyried hanes yr ardal leol, gan gynnig enw ar gyfer datblygiad tai newydd yn y dref sy’n werth £2.8 miliwn.
Dewiswyd Romans Way gan Ddosbarth L3 Ysgol Maeshyfryd, ar ôl i’r datblygwyr, Anwyl Construction a Thai Wales & West, ofyn iddynt ddewis enw ar gyfer stryd newydd yn natblygiad y gymdeithas tai yn Ffordd Coed Onn yn y dref.
Enillodd y dosbarth gystadleuaeth a gynhaliwyd rhwng ysgolion ar ôl i bedwar enw posibl gael eu cynnig, ac yn y diwedd, dewiswyd Romans Way gan bod y safle ganllath neu ddwy o’r man lle y gwnaeth Anwyl ddarganfyddiad Rhufeinig pwysig bum mlynedd yn ôl.
Bellach, mae’r disgyblion wedi gweld yr arwydd newydd yn cyrraedd y datblygiad o 23 cartref, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, a gaiff ei gwblhau yn ystod y gwanwyn eleni ac ar ôl i’r teuluoedd cyntaf symud yno.
Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Tai Wales & West:
“Mae cynnwys y gymuned leol wrth ddewis enw wastad yn un o uchafbwyntiau unrhyw ddatblygiad newydd.
Rydym wrth ein bodd i gynnig cartrefi fforddiadwy y mae cryn angen amdanynt yn y Fflint ond hefyd, rhywbeth parhaol a fydd yn atgoffa’r grŵp o blant buddugol o ddiwrnod creadigol yn yr ysgol.”
Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint, Cynghorydd Bernie Attridges:
“Unwaith eto, mae’n wych gweld yr effaith gadarnhaol y mae adeiladu’r cartrefi fforddiadwy yn Sir y Fflint yn ei chael ar y gymuned leol.
Rydw i’n siŵr bod y disgyblion wedi mwynhau dysgu am hanes eu tref, a dylent deimlo’n hynod o falch o’r ffaith eu bod nhw wedi enwi’r datblygiad newydd hwn.”
Dywedodd Veronica Breeze, athrawes yn Ysgol Maeshyfryd:
“Bu’n brosiect da iawn a threuliom wers yn ystyried hanes y Fflint cyn dewis pedwar enw posibl.
Yn ogystal â Romans Way, roedd y disgyblion wedi cynnig Roderic Street, Raddington Road a Tir Digonedd.
Rhodri Fawr oedd Brenin Cymru yn 870 a rhannodd ei dir rhwng ei dri mab, gan nodi y byddai unrhyw anghydfod yn cael ei setlo yma ar lan Afon Dyfrdwy. Raddington oedd yr enw cynharaf am y Fflint ac fe’i nodir yn Llyfr Dydd y Farn Gwilym Orchfygwr.
Cynigiwyd Tir Digonedd oherwydd y plwm a ddarganfuwyd yn Oakenholt, y glo a gloddiwyd yng Nghwnsyllt a’r calch a dyrchwyd ym Magillt, a oedd wedi peri i’r ardal fod yn ffyniannus.”
Mae datblygiad Coed Onn yn ffrwyth partneriaeth rhwng Anwyl Construction, Tai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint, ac mae’n cynnwys 14 o gartrefi dwy ystafell wely, tri thŷ tair ystafell wely a thri byngalo, gan gynnwys un sy’n addas i’r rhai mewn cadair olwyn ac sy’n cynnwys cyfleusterau eraill sy’n addas i bobl anabl.
Yn ogystal, mae’r cartrefi yn cynnwys nodweddion ‘gwyrdd’ megis casgenni sy’n casglu dŵr glaw a biniau compost.