“Mae ein cartref newydd wedi rhoi annibyniaeth Logan yn ôl iddo”
Mae Logan Dagnall yn ei arddegau ac mae’n mwynhau mwy o annibyniaeth ers i’w deulu symud i’w byngalo a addaswyd yn arbennig yng Nghaerfyrddin.
Ganwyd Logan, sy’n 15 oed, gyda pharlys yr ymennydd, ac mae’n defnyddio cadair olwyn. Roedd ei deulu wedi bod yn aros dros bum mlynedd am gartref addas a fyddai’n gallu bodloni anghenion Logan.
Fis Tachwedd y llynedd (2022), symudodd Logan, a’i fam, ei dad a’i chwaer hŷn, o’u cartref rhent preifat i’w cartref newydd yng Nghlos Tawelan, Caerfyrddin.
Mae’r byngalo yn cynnwys ystafell wlyb hollol hygyrch ar y llawr gwaelod, drysau llydan fel y gall Logan symud o gwmpas yn ei gadair olwyn a drws ffrynt trydan gyda rampiau er mwyn cynnig mynediad hawdd iddo i mewn ac allan o’i gartref.
Yn y gegin, gosodom hob y mae modd ei godi neu ei ostwng, sy’n caniatáu i Logan goginio pan fydd yn dymuno gwneud hynny, ac mae offer codi yn yr ystafell wely a’r ystafell ymolchi yn helpu Logan i fynd i mewn ac allan o’i gadair olwyn.
Dywedodd Donna, mam Logan: “Yn ein hen dŷ, roedd grisiau yn arwain i fyny ac i lawr o’r ardd, nad oedd yn rhy ffôl pan oedd Logan yn iau, oherwydd y gallwn ei gario i fyny ac i lawr. Ond nid oes unrhyw bosibilrwydd y gallaf godi bachgen 15 oed.
“Roedd gennym lifft grisiau yn yr hen dŷ hefyd, ond nid oedd fawr ddim lle i Logan fynd o le i le yn ei gadair.
“Mae’r tŷ newydd hwn wedi cael ei addasu ar gyfer Logan ac anghenion ein teulu. Mae wedi rhoi ei annibyniaeth yn ôl iddo. Gall goginio pryd y mae’n dymuno a mynd i mewn ac allan fel y mae’n dymuno.”
Donna Dagnall, mam Logan
Mae Clos Tawelan yn ddatblygiad o 18 o dai a fflatiau, a adeiladwyd ar safle hen gartref gofal Tawelan a oedd yn cael ei redeg gan y cyngor. Fe’i adeiladwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gâr a TRJ Building Solutions.