Mae rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yn cynnig sylfaen ar gyfer gyrfa ym maes datblygu
Ar ôl cwblhau ein rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, mae Rachel Darlington a Luke Morris wedi llwyddo i sicrhau swyddi amser llawn yn y Tîm Datblygu yng Ngrŵp Tai Wales & West (WWHG).
Ymunodd Rachel a Luke â rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yn 2021. Roedd eu rhaglen 2 flynedd fel Swyddogion Prosiect Datblygu dan Hyfforddiant wedi cynnig cyfle gwych iddynt ddysgu mwy am yrfa ym maes datblygu, wrth iddynt dreulio amser ym mhob rhan o’r tîm er mwyn deall y prosesau cynllunio, adeiladu ac ôl-ofal yn ein rhaglen adeiladu tai uchelgeisiol.
Yn ddiweddar, buom yn sgwrsio gyda’n Swyddogion Datblygu diweddaraf i glywed mwy am eu profiad ar y rhaglen graddedig a sut yr oedd wedi helpu i’w paratoi ar gyfer eu rolau newydd o fewn WWHG.
Beth oedd wedi eich denu i wneud cais am le ar raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, ac a oedd wedi cwrdd â’ch disgwyliadau?
Rachel: Ar ôl gorffen yn y brifysgol, nid oeddwn yn siŵr beth oeddwn yn dymuno ei wneud ar ôl hynny. Roeddwn yn gwybod fy mod yn dymuno gwneud rhywbeth a fyddai’n berthnasol i’m gradd ym maes cynllunio, ac roedd ffrind wedi fy nghynghori i wneud cais am rôl Swyddog Prosiect Datblygu Dan Hyfforddiant gyda WWHG. Mae wedi cwrdd â’m disgwyliadau a chynnig profiadau gwych i mi ddatblygu fy ngyrfa fel Swyddog Datblygu ymhellach.
Luke: Roedd y manylion cychwynnol am y swydd yn llawn gwybodaeth, gan nodi manylion y rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ac amlygu’r cyfleoedd dysgu amrywiol sydd ar gael yn y cwmni. Roedd yn rhoi pwyslais ar ddatblygiad personol, a bu hyn yn wir yn ystod fy nghyfnod fel hyfforddai, heb os.
Ym mha ffyrdd oedd rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain wedi helpu i’ch paratoi am eich swydd bresennol?
Rachel: Roedd y rhaglen graddedig wedi fy helpu i baratoi am fy swydd barhaol fel Swyddog Datblygu, trwy sicrhau profiad wrth weithio gyda fy nghydweithwyr a dysgu am y broses ddatblygu. Mae fy nhîm wedi bod yn gefnogol iawn trwy gydol fy rhaglen graddedig, gan fy helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol.
Luke: Roedd rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yn cynnig cyfleoedd niferus ar gyfer dysgu a datblygiad personol, gan helpu i sicrhau’r wybodaeth gadarn sy’n hanfodol ar gyfer fy swydd bresennol. Roedd wedi rhoi cyfle i mi gael cyswllt â gwahanol agweddau ar y busnes, a’m helpu i feithrin dealltwriaeth o’r ffordd y mae WWHG ehangach yn gweithredu gyda’i gilydd.
Beth yw eich hoff atgof o’ch amser ar raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain?
Rachel: Heb os, fy hoff atgof o raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain fu cyfarfod graddedigion eraill a gwneud cysylltiadau gydag adrannau eraill. Rydw i wedi gwir fwynhau ein diwrnodau cwrdd i ffwrdd ar gyfer Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, gan ymweld â swyddfeydd y Gogledd a’r Gorllewin. Bu’n ffordd wych o ddod i adnabod ein gilydd.
Luke: Bu’r diwrnodau Datblygu ein Gweithlu ein Hunain yng Nghaerdydd yn llawer o hwyl ac yn ddiddorol iawn. Roedd hi wastad yn wych cael dal i fyny gyda’r lleill ar y rhaglen a oedd yn yr un cwch â mi. Roedd Carly a Sue o’r Tîm Gyrfaoedd wedi trefnu gweithgareddau cyson a oedd yn ennyn brwdfrydedd ac yn ein gwthio o’n mannau cyffyrddus ac yn ein hannog i herio ein syniadau, a oedd wedi helpu i’n dwyn ni oll ynghyd hefyd.
Beth fu eich uchafbwynt personol chi o weithio yn WWHG?
Rachel: Fy uchafbwynt personol i o weithio yn WWHG fu ymweld â phreswylwyr yn eu heiddo i glywed yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac a ydynt yn mwynhau byw yn eu cartrefi. Bu’n brofiad cadarnhaol i mi gan bod ein preswylwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Luke: Un o’r uchafbwyntiau mawr yn ystod fy nghyfnod i yma fu’r cysylltiadau yr wyf wedi eu gwneud. Nid yn unig yr wyf wedi meithrin cyfeillgarwch cadarn gydag aelodau eraill fy nhîm, ond rydw i wedi meithrin perthnasoedd ystyrlon ar draws y sefydliad cyfan hefyd, sy’n golygu ei bod yn bleser gweithio yma.
A fyddech chi’n argymell rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain i raddedigion eraill sy’n dymuno cychwyn ar eu gyrfa, a pham?
Rachel: Heb os, byddwn yn argymell rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain i raddedigion eraill! Mae Tai Wales & West yn gwmni gwych i weithio iddo ac yn ystod y rhaglen graddedig, rydw i wir wedi teimlo fy mod yn aelod o’r sefydliad sy’n cael fy ngwerthfawrogi.
Luke: Byddwn yn ei argymell yn fawr i eraill. Bu’n sylfaen gwych ar gyfer fy ngyrfa, ac mae wedi fy ngalluogi i ehangu fy ngwybodaeth ac i ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau yn raddol. Trwy gydol y rhaglen, rydw i wedi wastad wedi cael rhwydwaith cymorth cadarn, sydd wedi rhoi’r hyder i mi fy mod yn gwybod ble i droi os bydd unrhyw broblemau yn codi.
Trwy gydol eu cyfnod ar raglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, bydd hyfforddeion yn cychwyn ar raglen hyfforddi bwrpasol a gynlluniwyd i ehangu eu sgiliau a helpu i’w paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Yn ogystal, rhoddir y cyfle i bob graddedig ymweld â detholiad o’n heiddo a’n safleoedd datblygu er mwyn cynnig dirnadaeth iddynt o’r gwaith a wnawn yn WWHG i wella bywydau ein preswylwyr ac i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau lleol.