Mae Tai Wales & West yn Arwyr Tai
Cyhoeddwyd mai Tîm Gwella Busnes Tai Wales & West yw Tîm Gwasanaeth Canolog y Flwyddyn yng Ngwobrau Arwyr Tai cenedlaethol 2019.
Llwyddodd y Tîm i ddod i brig mewn categori a oedd yn cynnwys 10 o ddarparwyr tai cenedlaethol eraill, am y ffordd y mae’n gweddnewid y systemau yr ydym yn eu defnyddio er mwyn helpu preswylwyr a staff.
Dywedodd Alex Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol: “Roedd cael ein cynnwys yn y rhestr fer yn gyflawniad, ond mae ennill yn anhygoel. Rydw’n falch o bob aelod o’r tîm, mae pob un ohonynt wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn.”
“Mae’r tîm yn dwyn ynghyd tîm amrywiol o bobl, y mae ganddynt ystod enfawr o sgiliau gan gynnwys TGCh, data a dadansoddi busnes, a CC a Chyfathrebu, ac y maent yn gweithio fel un er mwyn deall yr hyn y mae ei angen ar staff rheng flaen er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon i breswylwyr.
“Maent wedi cynllunio system rhent sy’n gweithio ar sail anghenion staff tai. Y canlyniad yw system gyfrifiadurol bwrpasol, ynghyd ag ap wedi’i deilwra, sy’n golygu bod swyddogion tai yn gallu gweithio o bell, gan gofnodi cyfathrebu gyda’r preswylwyr ac maent yn gallu troi at gryn dipyn o wybodaeth sy’n ymwneud â thenantiaeth pan fyddant gyda’r preswylwyr.”
“Rydw i’n falch o’r hyn y mae’r tîm eisoes wedi’i gyflawni a’r hyn y gallwn ei greu yn y dyfodol.”
Trefnir y Gwobrau Arwyr Tai gan Inside Housing, ac maent yn dathlu “arwyr anhysbys” y byd tai a’r rhagoriaeth, yr ymrwymiad a’r ymroddiad o fewn timau. Cynhaliwyd y Gwobrau yn Manchester Central ar 24 Mehefin 2019.