“Mae’n golygu cryn dipyn i ni gael lle ein hunain yn ein cartref newydd.”
Mae Joanne Barnard-James yn fam ifanc ac mae’n dweud mai cael lle ar gyfer ei theulu yw’r peth pwysicaf am ei chartref newydd.
Cyn symud i’w cartref dwy ystafell wely newydd ym Maes Merydd, Llandysilio, roedd Joanne, ei gŵr Rupert a’u dau o blant ifanc, Elizabeth, naw mis, a James, tair oed, yn byw gyda’i rhieni, ac yn rhannu tŷ gyda chwech o bobl arall.
“Roeddem wedi bod yn rhentu lle preifat cyn y ganwyd Thomas, ond roedd y tŷ yr oeddem yn byw ynddo yn oer ac yn llaith.
“Ganwyd Elizabeth ddau fis yn gynnar a dywedodd ein hymwelydd iechyd wrthym nad oedd hi’n datblygu gystal ag y dylai oherwydd yr amgylchedd yr oeddem yn byw ynddo. Penderfynom adael a symud yn ôl i fyw at fy rhieni.
“Nid oedd yn ddelfrydol gan bod 10 ohonom yn byw dan yr un to – ond o leiaf mae Elizabeth wedi gallu ffynnu.”
“Mae’r tŷ newydd gymaint yn gynhesach. Gyda’r paneli solar a phwmp gwres ffynhonnell aer, mae’n mynd i fod yn haws ac yn rhatach ei gadw’n gynnes, a fydd yn helpu Elizabeth.”
Preswylydd Joanne Barnard-James
“Mae’n golygu llawer i ni gael ein lle ein hunain yn ein cartref newydd.
“Arferwn redeg fy musnes ar-lein fy hun o’m cartref, gan gynhyrchu canhwyllau a dillad, ond bu’n rhaid i mi stopio hynny pan symudais yn ôl i fyw gyda fy rhieni, gan nad oedd digon o le. Gan bod gennyf le nawr, rydw i wedi gofyn i Dai Wales & West am ganiatâd i ailgychwyn fy musnes bach.”
Ym Maes Merydd, gweithiom gyda’n partneriaid adeiladu hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd i adeiladu 14 o dai dwy a thair ystafell wely a chwech o fflatiau un ystafell wely ar hen safle Fferm Pencnwc East.
Mae ei chymydog, Amanda Rees-Jones, yn dweud y bydd ei chartref newydd yn cynnig lle diogel i’w mab bach, Hunter.
Mae Hunter yn un ar ddeg mis oed, ac fe’i ganwyd gyda nam geni prin, sef syndrom Pierre Robin, sy’n golygu bod ei ên a’i daflod hollt heb ddatblygu’n llawn. Mae’r cyflwr yn golygu bod angen iddo gael ocsigen er mwyn ei helpu i anadlu ac mae’n cael ei fwydo drwy diwben.
Mae Amanda, a oedd yn rhentu lle preifat mewn pentref cyfagos gyda Hunter a’i dwy ferch, sy’n 13 ac 15 oed, yn dweud y bydd ei chartref newydd yn cynnig diogelwch i’r teulu.
“Symudom bedair gwaith mewn pum mlynedd. Cawsom ein troi allan o’n tŷ diwethaf pan benderfynodd ein landlord werthu. Roeddem wedi bod ar restr aros y cyngor am dŷ am bedair blynedd, felly roedd yn rhyddhad pan ddaeth y tŷ hwn ar gael.
“Mae’n mynd i wneud ein bywydau yn gymaint gwell. Bydd hyd yn oed cael lle parcio y tu allan yn ei gwneud yn haws er mwyn cludo Hunter a’i offer i mewn ac allan o’r car.”
Preswylydd Amanda Rees-Jones
Symudodd Eleanor Jones, sy’n lleol i’r pentref, i mewn i un o’r fflatiau yn y datblygiad. Roedd hi wedi bod yn gofalu am ei thad oedrannus yng nghartref y teulu tan ei farwolaeth. Roedd y teulu wedi byw yn y tŷ am dros 40 mlynedd, roedd yn oer, yn llaith ac yn anghysbell, heb wres canolog.
“Roeddwn yn dymuno symud i rywle llai o faint gan bod y tŷ yn rhy fawr, ac ni allwn ofalu amdano ar fy mhen fy hun,” dywedodd.
“Rydw i wedi gwylio’r tai hyn yn cael eu hadeiladu, felly rydw i’n hapus i symud yma.”
Eleanor Jones