Gyda’n cymorth ni mae Caffi Trwsio Newydd yn agor ei drysau
Lansiwyd caffi trwsio newydd yng Nghaerdydd, sy’n helpu pobl i drwsio eitemau sydd wedi torri, yn hytrach na chael gwared arnynt.
Lansiodd Grŵp Eco Llanisien gaffi trwsio cyntaf yr ardal ym mis Ionawr. Roedd y gwirfoddolwyr a oedd yn rhedeg y grŵp wedi meddwl am y syniad o gael ‘Caffi Trwsio’ er mwyn helpu pobl leol drwsio eitemau nad ydynt yn gallu fforddio eu disodli, a’u hatal rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.
Gofynnodd y grŵp i ni am help gan bod gennym gartrefi a swyddfeydd yn Llanisien, a rhoddom arian iddynt er mwyn helpu i dalu’r costau o sefydlu’r caffi.
Dywedodd Cynghorydd Bethan Proctor, Cadeirydd Grŵp Eco Llanisien: “Rydym wedi bod yn cynllunio caffi trwsio am bron i flwyddyn, ond nid oeddem yn gallu bwrw ymlaen ag ef heb y cymorth hwn. Mae’r cyllid wedi ein helpu i dalu’r costau cyhoeddusrwydd, yswiriant, deunyddiau bychain ac offer er mwyn cynnal profion PAT, er mwyn sicrhau diogelwch yr eitemau trydanol a fydd yn cael eu trwsio.
“Heb y cymorth ariannol, ni fyddai’r prosiect hwn wedi gallu cymryd ei gamau cyntaf.”
Cynghorydd Bethan Proctor, Cadeirydd Grŵp Eco Llanisien
“Rydym yn argyhoeddedig bod y caffi yn helpu preswylwyr lleol ac yn lleihau gwastraff a’r deunydd a gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi. Y tu hwnt i’r manteision amgylcheddol a’r arbedion ariannol, mawr obeithiwn y bydd yn dod yn ddigwyddiad rheolaidd hefyd, y bydd y gymuned leol yn mwynhau bod yn rhan ohono – boed hynny fel pobl sy’n trwsio, gwirfoddolwyr neu ymwelwyr.”