Oriau cau dros y Nadolig 2024
Bydd ein swyddfeydd ar gau i ymwelwyr ar ddydd Llun 23 a dydd Mawrth 24 Rhagfyr, fodd bynnag, byddwch yn gallu ein ffonio fel arfer ar y diwrnodau hyn.
Byddwn ar gau am y Nadolig o 3pm ar ddydd Mawrth 24 Rhagfyr tan 8am ar ddydd Iau 2 Ionawr.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni chaiff ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, llinell ffôn neu wefan eu monitro.
Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau brys yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch: 0800 052 2526
Gallwch dalu eich rhent neu adrodd am waith trwsio nad yw’n waith brys, ar-lein.
Life & Progress:
Nid ydych chi fyth yn gwybod pryd y bydd angen ychydig help neu gymorth ychwanegol arnoch.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth a Lles Tenantiaid yn wasanaeth cymorth penodedig ar-lein (enw defnyddiwr: walesandwest | cyfrinair: resident) a dros y ffôn sy’n gyfrinachol ac y mae modd i’n preswylwyr ei ffonio unrhyw awr o’r dydd neu’r nos yn rhad ac am ddim – 0330 094 8845
Caiff y gwasanaeth ei redeg gan Life & Progress, ac mae’n cynnig cymorth ac arweiniad arbenigol a chyfrinachol ddydd a nos i’n holl breswylwyr.