Newyddion

20/11/2024

Neges Destun twyllodrus am Daliadau Tanwydd Gaeaf

Mae neges destun twyllodrus newydd sy’n cynnig disodli’r Lwfans Tanwydd Gaeaf yn targedu pensiynwyr.

Mae’n honni y bydd lwfans byw newydd yn cael ei dalu allan, i gymryd lle’r Lwfans Tanwydd Gaeaf, ac yn gofyn i ddioddefwyr ddiweddaru eu manylion i’w hawlio.

Sgam yw’r neges hon!

Mae’r Llywodraeth, a’r awdurdodau lleol yn dweud nad ydyn nhw’n anfon negeseuon testun allan ac yn gofyn i bobl i beidio clicio ar ddolenni i hawlio unrhyw beth.

Os byddwch yn derbyn neges destun, e-bost, neu alwad ffôn nad ydych wedi gofyn amdano, peidiwch â rhoi eich gwybodaeth bersonol gan y gallai’r rhain fod yn ffug. Peidiwch â roi gwybodaeth breifat fel manylion banc neu gyfrineiriau, ateb negeseuon testun, lawrlwytho atodiadau, na chlicio ar unrhyw ddolenni mewn e-byst os nad ydych yn siŵr eu bod yn ddilys.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael eu talu’n awtomatig.

 

Yr hyn i’w wneud os byddwch yn clicio ar ddolen ffug

Os ydych chi wedi clicio ar ddolen dwyllodrus/ffug yn ddamweiniol, neu wedi gwneud taliad, dylech gysylltu â’ch banc yn uniongyrchol.

 

Beth i’w wneud os ydych yn credu eich bod wedi derbyn neges twyllodrus

Adroddwch am wefannau, e-byst, rhifau ffôn neu alwadau ffôn amheus at Action Fraud, y Ganolfan Adrodd Twyll a Seiberdroseddu Genedlaethol. ⁠⁠
Os byddwch yn adrodd am sgam iddyn nhw ar-lein byddwch yn cael yr opsiwn i’w adrodd fel gwestai, neu gofrestru gyda’ch enw a’ch e-bost, a fyddwch yn gallu olrhain ei gynnydd a derbyn diweddariadau.
⁠Gallwch hefyd ffonio Action Fraud ar 0300 123 2040 o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am – 8pm.

 

Rhybudd DWP (Adran Gwaith a Phensiynau)

Neges destun twyllodrus am Daliadau Tanwydd Gaeaf yw’r sgam diweddaraf mewn cyfres o sgamiau sy’n ymwneud â budd-daliadau, sydd wedi arwain yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gyhoeddi rhybudd drwy ei sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n rhybuddio: “ Byddwch yn ofalus bob amser ynghylch clicio ar ddolenni a pheidiwch byth â rhannu manylion personol neu ariannol.⁠
“Ymgysylltwch â ffynonellau swyddogol dibynadwy yn unig.”
Gwefan swyddogol y Llywodraeth yw www.gov.uk 
Gallwch adrodd am negeseuon amheus i Action Fraud.

 

Sut i adrodd am neges destun dwyllodrus

Gallwch anfon negeseuon testun amheus ymlaen i 7726 yn rhad ac am ddim.  Mae’r côd hwn yn galluogi’ch darparwr i ymchwilio i darddiad y testun a chymryd camau, os canfyddir ei fod yn faleisus.
Mae rhagor o wybodaeth am sgamiau gwe-rwydo ar gael ar  Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol 

Gallwch hefyd gymryd sgrinlun neu recordiad sgrin o’r neges destun a’i hanfon ymlaen i report@phishing.gov.uk yn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol

 

Byddwch yn wyliadwrus am ap Credyd Cynhwysol ffug


Mae Heddlu Gogledd Cymru a rhai cynghorau yn rhybuddio am ap Credyd Cynhwysol ffug sydd wedi cael ei greu ar rai o’r siopau apiau symudol.
Mae’r ap yn honni ei fod yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli eu cyfrifon, yn ogystal â negeseuon testun twyllodrus hefyd.
Mae DWP wedi dweud nad ydynt wedi creu ap, felly nid yw’r ap hwn yn swyddogol ac efallai na fydd yn ddiogel.
Defnyddiwch wefan swyddogol Credyd Cynhwysol DWP y Llywodraeth yn unig i dderbyn neu gofnodi gwybodaeth.
Os ydych chi wedi lawrlwytho’r ap hwn, dylech ei ddadosod a chysylltu ag Action Fraud ar 0300 123 20 40 ⁠

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.