Newyddion

24/12/2024

Preswylwyr a chymunedau yn mwynhau hwyl yr ŵyl

Mae ein preswylwyr a’n cymunedau ar draws Cymru wedi ymuno yn nathliadau’r ŵyl.

Bu preswylwyr yng Nghwrt St Clement, Caerdydd yn mwynhau cyngerdd Nadolig gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans sydd gerllaw.  Ac yn Llain Lais yn Abergwaun, bu preswylwyr hefyd yn mwynhau cyngerdd carolau Nadolig, diolch i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Glannau Gwaun yn y dref.

Bu dathliadau Nadoligaidd yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, gan gynnwys ymweliad gan Siôn Corn mewn parti Nadolig grŵp rhieni a phlant bach.  Bu côr Ysgol Bodhyfryd yn perfformio set o ganeuon Nadolig i bawb a fynychodd digwyddiad bingo a charolau a the prynhawn Nadoligaidd blynyddol y ganolfan.

Daeth y Grinch â hwyl yr ŵyl, ac ychydig ddrygioni, i’n cynllun gofal ychwanegol yn Aberystwyth, sef Maes Y Môr, pan fu’n helpu preswylwyr i addurno’r adeilad a’r ardaloedd cymunol. Diolch byth, roedd wedi gadael erbyn i’r staff o’n tîm gwasanaethau corfforaethol yng Ngorllewin Cymru wirfoddoli eu hamser gan gynnal sesiwn grefftau yn Gymraeg gyda’r preswylwyr, a fu’n creu eu haddurniadau bwrdd eu hunain.

Cynorthwyo ein cymunedau

Yn Wrecsam, cafodd dau sefydliad gyllid i gynorthwyo’r gymuned leol a helpu teuluoedd mewn angen dros y Nadolig.

Llanwodd Cymorth Tenantiaeth Allgymorth Wrecsam (WOTS) eu 30 o hamperi Nadolig gyda hanfodion, danteithion Nadoligaidd a gweithgareddau. Rhoddwyd yr hamperi i unigolion ag anghenion iechyd meddwl neu ddefnyddio sylweddau, y maent yn eu cynorthwyo yn y gymuned.

Gwelwyd un o olygfeydd mwyaf cyfarwydd y Nadolig – fflôt Siôn Corn, a arweiniwyd gan Ford Gron Wrecsam – yn teithio i Wrecsam a’r pentrefi cyfagos gyda chyfraniad gan Dai Wales & West tuag at gost y tanwydd, melysion i’r cannoedd o blant a ddaeth allan i weld Siôn Corn a lluniaeth i’r gwirfoddolwyr.

Yn Abergele, rhoddwyd arian i’r banc bwyd er mwyn helpu i roi hwb i’w hamperi Nadolig gydag eitemau ychwanegol fel tuniau cig, siocledi, bisgedi blasus, ffrwythau a danteithfwyd sawrus a melys i 125 o deuluoedd yn y gymuned leol.

Yn Hope Llaneirwg yng Nghaerdydd, roeddem yn falch o helpu gwirfoddolwyr i sicrhau bod gan yr holl deuluoedd lleol roddion newydd i’w rhoi o’u siop Nadolig y Nadolig hwn. Rhoddom arian i’r elusen er mwyn eu helpu i brynu eitemau ar gyfer hosanau Nadolig ac anrhegion bychain i rieni i’w dewis yn rhad ac am ddim.

Roedd trefnwyr digwyddiad teuluol Kindness at Christmas ar faes pentref Y Drenewydd wedi troi atom am gymorth. Roedd tua 1,000 o blant a’u teuluoedd wedi mynychu’r digwyddiad cymunedol, a oedd ar agor i bawb, felly roddem yn hapus i roi cyfraniad ariannol o’n cronfa gymunedol Gwneud Gwahaniaeth er mwyn prynu melysion a siocledi i Siôn Corn eu dosbarthu i deuluoedd.

Ym Merthyr Tudful, ymunodd rhai o’n staff gyda gwirfoddolwyr i bacio a dosbarthu hamperi Nadolig i deuluoedd mewn angen fel rhan o brosiect “Mae pawb yn haeddu Nadolig”. Bob blwyddyn, mae ysgolion lleol, prosiectau cymunedol ac eglwysi yn enwebu teuluoedd mewn angen i gael hamper o ddanteithion Nadoligaidd, ac roeddem wedi helpu i ariannu’r rhain a’u pacio.

Yn ogystal, ymunodd ein staff â hwyl yr ŵyl gan wisgo eu siwmperi Nadolig gorau i godi arian ar gyfer dwy elusen. Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Siwmperi Nadolig, rhoddwyd cyfraniad i Achub y Plant ac ar ddydd Mercher, 18 Rhagfyr, cefnogom Share, elusen sy’n cynorthwyo ffoaduriaid ar draws y byd a theuluoedd mewn argyfwng a phobl sy’n ddigartref yng Ngogledd Cymru.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru