“Roeddem ar fin bod yn ddigartref ac ni allem gredu ein lwc pan symudom yma.”
Roedd Rachel Jones, Kristian Davies a’u merch tair oed, Lily-Grace, yn wynebu bod yn ddigartref pan benderfynodd eu landlord preifat werthu’r tŷ yr oeddent yn ei rentu.
Trwy symud i’w cartref newydd yn Aberystwyth, maent yn dweud bod ganddynt gynhesrwydd a diogelwch cartref parhaol nawr a chymorth eu teulu sy’n byw gerllaw.
Ganwyd a magwyd Kristian yn Aberystwyth. Mae’n anabl ar ôl iddo gael damwain pan oedd yn iau ac mae’n dweud y bydd cael cymorth ei deulu yn gwneud eu bywydau yn haws.
Mae’r teulu yn un o blith chwe theulu sy’n symud i gartref newydd yng Nghae Dan yr Haidd yn Aberystwyth.
Adeiladwyd Cae Dan yr Haidd ar safle hen dŷ dafarn Tollgate ym Mhenparcau gan Castlemead Developments, ac mae’n cynnwys pedwar tŷ a dau fyngalo, ynghyd â thŷ a chwe fflat sy’n darparu llety â chymorth i bobl ifanc.
Dywedodd Rachel: “Roeddem yn wynebu bod yn ddigartref gan bod ein landlord yn dymuno gwerthu. Roeddem wedi bod yn chwilio am dŷ rhent preifat arall ond roeddem yn digalonni gan na allem weld unrhyw beth y gallem fforddio ei rentu.
“Yna cawsom y cyfle i symud i Gae Dan yr Haidd.
“Nid oeddem yn gallu credu ein lwc. Nid ydym fyth wedi cael tŷ newydd o’r blaen. Mae’n anhygoel. Mae mor gynnes a’r gobaith yw y bydd y paneli solar yn ein helpu i arbed arian ar ein biliau trydan.”
Rachel Jones, preswylydd
“Rydym yn byw yn agosach at deulu Kris nawr, ac rydym yn edrych ymlaen i gael help i ofalu am Lily-Grace er mwyn i mi allu dychwelyd i wneud gwaith amser llawn.”