Newyddion

06/01/2025

“Rydym wedi llwyddo i symud allan lawer yn gynharach nag yr oeddem yn ei ddisgwyl yn y lle cyntaf, wrth i ni gronni ecwiti yn yr eiddo.”

Roedd Emily, prynwr tro cyntaf lleol, a’i phartner, yn ei chael hi’n anodd cael tŷ y gallent fforddio ei brynu. Yna, daethant ar draws tŷ dwy ystafell wely yng Nglannau’r Barri, gan lwyddo i’w brynu fel rhan o’r cynllun Perchentyaeth Cost Isel (LCHO).

Roedd Emily yn byw yn lleol a llwyddodd i sicrhau morgais ar sail ei chyflog unigol hi, a oedd yn golygu ei bod yn gymwys ar gyfer cynllun LCHO Aspire2Own, a gaiff ei redeg gan Gyngor Bro Morgannwg a Grŵp Tai Wales & West. Mae’r cynllun yn galluogi Prynwyr Tro Cyntaf i brynu 100% o’u cartref am 70% o’i werth ar y farchnad, heb yr angen i dalu rhent na llog ar yr ecwiti a rennir.

Nawr, wrth i’w teulu dyfu, mae Emily a’i phartner wedi gwerthu’r tŷ yn ôl trwy’r cynllun, gan agor y drws iddynt brynu cartref mwy o faint i’w teulu.

Rhannodd Emily ei phrofiad: ⁠ “Pan ddechreuom chwilio am dŷ yn 2020, roedd fy mhartner yn fyfyriwr, felly nid oeddem yn gallu gwneud cais am forgais gyda’n gilydd.

⁠ Nid oedd gennym ddigon o arian i dalu blaendal ac roedd hi’n ymddangos bod yr holl dai yr oeddem yn edrych arnynt yn rhy ddrud.

Ar ôl ychydig oedi a achoswyd gan y pandemig, symudodd y pâr i mewn i’w cartref newydd ym mis Gorffennaf 2020.

“Bu Beth o Dai Wales & West o gymorth mawr trwy gydol y broses brynu, gan roi unrhyw ddiweddariadau i ni.”

Bellach, gan fod eu teulu wedi tyfu ac maent wedi croesawu eu plentyn cyntaf, a gyda’r cyfle i brynu eiddo ei mam, mae Emily a’i theulu wedi llwyddo i ddringo i fyny’r ysgol eiddo.

“Rydym wedi llwyddo i symud allan lawer yn gynharach nag yr oeddem yn ei ddisgwyl yn y lle cyntaf, wrth i ni gronni ecwiti yn yr eiddo. Pan ddaeth eiddo fy mam ar werth, roeddem yn teimlo bod hwn yn gam nesaf da i ni.”

Un o fanteision LCHO yw pan fydd perchnogion tai yn barod i symud ymlaen, gallant werthu eu cartref yn ôl trwy’r cynllun, gan helpu prynwr tro cyntaf arall i gamu ar yr ysgol eiddo.

Dywedodd Emily “Roedd y broses werthu yn gyflym ac yn hawdd iawn. Rydw i’n dwli ar y ffaith bod rhywun arall yn cael budd o’r cynllun nawr.”

Cyngor Emily i brynwyr tro cyntaf?

Ewch amdani! ⁠A byddwch yn gyflym. ⁠Oherwydd y ffordd y mae’r rhaniad 70/30 yn gweithio, a’r ffaith nad oes angen talu rhent ar y 30%, mae’n ddewis delfrydol os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy fforddiadwy.”

“Byddwn yn argymell y cynllun i unrhyw brynwr tro cyntaf. Hwn yw’r peth gorau yr wyf wedi ei wneud.”

Mae Tai Wales & West yn cynnig amrediad o gartrefi dwy a thair ystafell wely o safon. Mae LCHO yn caniatáu i’r rhai sy’n gymwys i brynu cartrefi am bris is nag y byddent yn ei dalu yn y farchnad breifat – gan sicrhau bod perchentyaeth yn ddewis haws a mwy fforddiadwy.

I gael gwybod mwy am gynlluniau Perchentyaeth Cost Isel a sut yr ydym yn helpu pobl i ddringo ar yr ysgol eiddo, trowch at: https://www.wwha.co.uk/cy/chwilio-am-gartref/prynu-cartref/

Cai Cox

Hyfforddai CC a Chyfathrebu