Tai Wales & West yn gwneud gwahaniaeth i fand gorymdeithio Southern XL
Mae band jazz gorymdeithio o Dde Cymru, sy’n cynnig hyfforddiant cerddorol i bobl ifanc ac oedolion o bob oed a chefndir, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at greu sain o’r radd flaenaf yn ystod y tymor newydd, diolch i gyllid gan Dai Wales & West.
Darparom i Fand Jazz Southern XL o Faesteg er mwyn iddynt brynu pum drwm gorymdeithio i ddisodli hen offer, a oedd yn cael ei ddal at ei gilydd gan dâp.
Mae Southern XL yn fand gorymdeithio sy’n cynnig y cyfle i blant ac oedolion o bob cefndir i ddysgu chwarae offerynnau cerddorol a gorymdeithio.
Mae’r band wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd am bron i 20 mlynedd ac mae ganddo bron i 50 o aelodau sy’n cyfarfod bob dydd Sul i ymarfer. Maent yn cynnal arddangosiadau lleol ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws y DU, ac roeddent wedi gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth y DU yn 2023.
Dywedodd llefarydd ar ran y band: “Mae’r gwahaniaeth y mae’r offer newydd wedi ei wneud i ni yn anfesuradwy!”
“Bellach, gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion ar godi arian, hyfforddi, addysgu a recriwtio aelodau newydd, yn hytrach na dal ein hofferynnau at ei gilydd. Mae hyn yn hanfodol i ddyfodol ein band.
Mae’r offerynnau newydd yn golygu y bydd y sain a’r gerddoriaeth y byddwn yn ei chynhyrchu o’r radd flaenaf.”
Llefarydd ar Southern XL
Darparom nawdd fel rhan o’n cronfa Gwneud Gwahaniaeth, sy’n gweithio gyda chyflenwyr a chontractwyr i roi rhywbeth yn ôl i gymunedau lleol trwy gynorthwyo grwpiau cymunedol a chwaraeon a phrosiectau lleol.